1Shimon Petr, caethwas ac apostol i Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd a ninnau ynghyfiawnder ein Duw ac Iachawdwr Iesu Grist.
2Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer yn adnabyddiaeth Duw ac Iesu ein Harglwydd,
3gan mai pob peth y bu i’w Ddwyfol Allu ei roddi i ni, y rhai sydd tua bywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth yr Hwn a’n galwodd trwy Ei ogoniant Ei hun a’i rinwedd;
4trwy y rhai y gwerthfawr a thra-mawr addewidion a roddes efe i ni, fel trwy y rhai hyn yr eloch yn gyfrannogion o’r Ddwyfol anian, wedi diangc oddiwrth y llygredigaeth y sydd yn y byd trwy chwant.
5Ac o herwydd hyn ei hun, gan roddi pob diwydrwydd, arlwywch yn eich ffydd, rinwedd; ac yn eich rhinwedd, wybodaeth;
6ac yn eich gwybodaeth, gymmedrolder; ac yn eich cymmedrolder, amynedd; ac yn eich amynedd, dduwioldeb;
7ac yn eich duwioldeb, gariad tua’r brodyr; ac yn eich cariad tua’r brodyr, gariad;
8canys a’r pethau hyn genych, ac yn aml hwynt, gwnant chwi nac yn segur nac yn ddiffrwyth yn adnabyddiaeth ein Harglwydd Iesu Grist:
9canys yr hwn sydd heb a chanddo y pethau hyn, dall yw, yn fyr ei olwg, wedi gollwng dros gof y glanhad oddiwrth ei bechodau gynt.
10Gan hyny, frodyr, byddwch mwy diwyd i wneuthur yn ddiymmod eich galwad chwi a’ch etholedigaeth; canys os y pethau hyn a wnewch, ni thripiwch byth;
11canys felly yn orlawn yr arlwyir i chwi y mynediad i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd ac Iachawdwr Iesu Grist.
12O herwydd paham y byddaf yn wastad ar fedr eich coffau am y pethau hyn, er gwybod o honoch hwynt a’ch sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi.
13A chyfiawn y’i barnaf, tra’r wyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi trwy eich coffau,
14gan wybod mai buan yw dadwisgiad fy nhabernacl, fel y bu i’n Harglwydd Iesu Grist amlygu i mi.
15A diwyd fyddaf, fel y bo bob amser genych allu, ar ol fy mynediad ymaith, i ddyfod a’r pethau hyn i’ch cof;
16canys nid chwedlau o wneuthuriad celfyddgar a ddilynasom wrth hyspysu i chwi allu a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi bod yn llygad-dystion o’i fawredd Ef;
17canys wedi derbyn o Hono gan Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, llef wedi ei dwyn Atto, o’r fath hon, gan y Mawr-ragorol Ogoniant, “Hwn yw Fy Mab anwyl, yn yr Hwn Myfi a’m boddlonwyd;”
18ac y llef hon nyni a glywsom, pan o’r nef y’i dygpwyd, a nyni gydag Ef yn y mynydd sanctaidd.
19Ac y mae genym, yn fwy diymmod, y Prophwydol air, yr hwn da y gwnewch wrth ddal arno, fel ar lusern yn llewyrchu mewn lle tywyll, nes i’r dydd wawrio,
20ac i’r seren-ddydd gyfodi yn eich calonnau; a hyn yn gyntaf yn adnabyddus genych, sef pob prophwydoliaeth o’r Ysgrythyr, o briod ddehongliad nid ydyw;
21canys nid trwy ewyllys dyn y dygpwyd prophwydoliaeth erioed, eithr a’r Yspryd Glân yn eu dwyn, llefaru oddiwrth Dduw a wnaeth dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.