1Psalm o eiddo Dafydd.
Iehofah (yw) fy Mugail, nid oes arnaf eisiau,
2Ymhorfeydd gwyrddlas y pair Efe im’ orwedd,
At ddyfroedd llonyddwch y tywys Efe fi;
3Fy enaid a ddadebra Efe,
Fy arwain y mae Efe ar hyd llwybrau uniondeb,
Er mwyn Ei enw;
4Ië, pan rodiwyf mewn dyffryn angeuaidd-ddu nid ofnaf ddrwg,
Canys Tydi (wyt) gyda mi,
Dy faglan a’th ffon—hwynt-hwy a’m cysurant:
5Arlwyi ger fy mron ford yngŵydd fy ngelynion,
Iro fy mhen yr wyt âg ennaint,
Fy phïol (sydd) orlawn;
6Yn unig da a rhadlondeb a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd,
A’m trigfa yn nhŷ Gwel Psalm 27:4.Iehofah (fydd) dros hir ddyddiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.