Ephesiaid 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Paul, apostol i Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Ephesus a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu:

2gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.

3Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a’n bendithiodd â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist;

4fel yr etholodd ni Ynddo Ef cyn seiliad y byd, i fod o honom yn sanctaidd ac yn ddianaf ger Ei fron mewn cariad,

5wedi ein rhag-ordeinio ni i fabwysiad trwy Iesu Grist, Iddo Ei hun, yn ol boddlonrwydd Ei ewyllys,

6er mawl gogoniant Ei ras, yr hwn a rad-roddodd Efe i ni yn yr Anwylyd,

7yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth trwy Ei waed, maddeuant ein camweddau,

8yn ol golud Ei ras Ef, yr hwn a wnaeth Efe yn helaeth tuag attom ymhob doethineb a deall,

9wedi hyspysu i ni ddirgelwch Ei ewyllys, yn ol Ei foddlonrwydd

10yr hwn a arfaethodd Efe Ynddo Ef i ddisdeiniaeth cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd bob peth yng Nghrist, y rhai sydd yn y nefoedd, ac y rhai ar y ddaear;

11ïe, Ynddo Ef, yn yr Hwn y’n gwnaethpwyd yn etifeddiaeth, wedi ein rhag-ordeinio yn ol arfaeth yr Hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor Ei ewyllys,

12fel y byddem er mawl Ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o’r blaen yng Nghrist;

13yn yr hwn chwychwi hefyd, wedi clywed Gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ïe, yn yr Hwn hefyd, wedi credu o honoch, y’ch seliwyd ag Yspryd Glân yr addewid,

14yr Hwn yw ernes ein hetifeddiaeth, hyd brynedigaeth Ei berchennogaeth, i fawl Ei ogoniant.

15O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu, yr hon sydd yn eich plith, ac y sydd genych tua’r holl saint,

16nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddïau, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist,

17Tad y gogoniant, roddi i chwi yspryd doethineb a datguddiad yn Ei adnabod Ef,

18wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon er mwyn gwybod o honoch pa beth yw gobaith Ei alwedigaeth, pa beth yw golud gogoniant Ei etifeddiaeth yn y saint,

19a pha beth yw rhagorol fawredd Ei allu tuag attom ni y sy’n credu, yn ol gweithrediad nerth Ei gadernid,

20yr hon a weithredodd Efe yng Nghrist, gan Ei gyfodi Ef o feirw a pheri Iddo eistedd ar Ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,

21goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn ar fedr dyfod.

22A phob peth a ddarostyngodd Efe dan Ei draed Ef;

23ac Ef a roddodd Efe yn ben dros bob peth, i’r eglwys, yr hon yw Ei gorph, cyflawnder yr Hwn sy’n cyflawni oll yn oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help