Eshaiah LLYFR - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)
LLYFRY PROPHWYD ESHAIAHWEDI EI GYFIEITHU O NEWYDDA’I DREFNU(CYN AGOSED AG Y DICHON)YN OL YR HEBRAEGGANY PARCHEDIG THOMAS BRISCOE, S. T. B.IS-LYWYDD, AC ATHRAW HYNAE, COLEG YR IESU,RHYDYCHAIN.HOLYWELL,W. MORRIS, “CYMRO” AND “EGLWYSYDD” OFFICE:HUGHES AND BUTLER, ST. MARTIN’S-LE-GRAND,LONDON.1853.RHAGYMADRODD.Fe ddywyd yr Esgob Lowth, “Os, wrth gyfieithu pryddest Hebreig, yr addasir ffurf yr ymadroddion yn ol priodwedd iaith arall, hi a ymddengys yn dywell ac yn anafus, ac ni bydd ganddi mwyach olion o’i phrydferthwch cyntefig ac o’i harddwch priodol.” Ac eilwaith, “Os cyfieithîr pryddest o’r Hebraeg yn llythyrenawl i ryddiaith unrhyw dafodiaith arall, tra y cedwir at yr un ffurf mewn ymadroddion, fe fydd ganddi, hyd y nod o ran prydyddiaeth, lawer o’i hardderchowgrwydd cynnwynawl a rhyw gyminaint o ymddangosiad prydyddawl.”Fe ymddangosai i mi bob amser fod yr iaith Gymraeg yn neillduol o addas i gymmeryd ei chyfieithu yn llythyrenawl o’r Hebraeg, — y gellid dodi yinad-roddion yr Hebraeg yn agos air am air yn y Gymraeg, — a bod y fath gyfieithiad yn rhoddi syniad eithaf cywir o bwyslais ac yspryd y cyfansoddiad. Ac o herwydd hynny mi a ymdrechais, hyd ag yr oedd ynof, wisgo prophwydoliaethau y prophwyd hynod hwn, yn ol rheolau ac egwyddorion yr Esgob Lowth, mewn diwyg mor addas ag y goddefai y Gymraeg; ac os llwyddodd fy ymgais nid edifar fydd gennyf am y llafur a’r gofal ag oedd yn angenrheidiol at y gorchwyl. Yn yr hyn sy’n canlyn fe welir yn awr ac yn y man rifnodau wrth ymyl rhai geiriau. Eu hamcan ydyw dangos mai dyna’r llëoedd y ceir y geiriau hynny yn yr Hebraeg: er enghraifft, yn y drydedd bennod a’r ddegfed adnod, “Deg cyfair o winllan a ddygant 2un 1bath,” arwyddocâ y rhifnodau fod “bath” yn sefyll yn yr Hebraeg o flaen “un;” ac felly yn yr iaith hon fe saif y llinell uchod fel y canlyn: “Deg cyfair a ddygant bath un.”Weithiau gwelir llinell uwch ben rhai geiriau; ei hamcan ydyw dangos fod yr holl eiriau o dani i gael eu hystyried magis un gair o ran trefniad, — fel y canlyn, “Iehofah 2a ddaw 1i farn.” Wrth hyn arwyddoceir fod “i farn” yn sefyll yn yr Hebraeg o flaen “a ddaw.” Yn yr Hebraeg cyssylltir y rhagenw meddiannol wrth ddiwedd y sylweddair, a hynny bob amser, fel y canlyn:Mab = ben.Fy mab = beni.Ac o blegid bod hyn yn digwydd yn ddieithriad, ni fernais yn angenrheidiol nodi hynny â rhifnodau; ac am mai un gair ydynt yn yr Hebraeg, tybiwn nad anghymmwys eu golygu fel ped fai y rhan olaf o’r gair yn sefyll ymlaenaf. Hyn hefyd a wneir yn fynych gyda’r rhagenw personol, yr hwn, yn gyffredin, a gyssylltir yn yr un modd wrth ddiwedd y parwyddiad.Oddigerth mewn rhyw ychydig o enghreifftiau, dilynwyd rhaniad y llinellau a wnaed gan yr Esgob Lowth, a derbyniwyd cynnorthwy nid ychydig oddi wrth lafur a dysgeidiaeth y gwr enwog hwn. Lle bynnag yr ymddengys fod ganddo ddigon o awdurdod i ymadael â’r “Masoretic Text,” minnau hefyd a wnaethum yr un peth; ond pryd nad oedd ei awdurdod yn ymddangos i mi yn ddigonol deliais at eiriau a phwyntiau ’r Masoriaid. Yr awdurdod neu’r gwarantrwydd y cyfeirir atto, ydyw, yn bennaf, ysgrif-lyfrau (MSS); cyfieithiad Groeg y Deg-a-thrigain (LXX), yr hwn a gyfansoddwyd yn agos i 300 o flynyddoedd cyn dyfodiad ein Hiachawdwr yn y cnawd; y cyfieithiad Syriaeg, yr hwn a gyfansoddwyd tua diwedd y ganrif gyntaf ar ol genedigaeth Crist; a’r cyfieithiad Lladin (Vulgate), yr hwn a gyfansoddwyd tua diwedd y bedwaredd ganrif: Ac yn ail, Aquila, Theodotion, a Symmachus.Nid oes yn awr ond i mi gydnabod fy rhwymau a’m diolchgarwch i’r Parch. Thomas Rowland, Curad Llandrindod, Bala, am y cymmorth a gefais i ddwyn y gwaith hwn i ben.T. B. Coleg yr Iesu, Rhydychain, Medi 20, 1853.ESHAIAH