Iöb 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

I.

1Yr oedd gwr yngwlâd Wts â’i enw Iöb, ac yr oedd y gwr ei hun yn berffaith ac yn uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni;

2ac fe anwyd iddo saith o feibion a thair o ferched;

3a’i dda oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum cânt o gyplau o wartheg, a phum cânt o asenod, a gweision lawer iawn, ac yr oedd y gwr hwn yn fawr rhagor holl feibion y dwyrain:

4ond fe elai ei feibion a gwnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; a danfonent a gwahoddent eu tair chwïorydd i fwytta ac i yfed gyda hwynt.

5A byddai, pan aethai dyddiau ’r wledd oddi amgylch, y danfonai Iöb (am danynt) ac y sancteiddiai hwynt, ac y codai yn fore ac y dygai boeth offrymmau (yn ol) eu rhifedi hwynt oll, canys dywedai Iöb, “Ond odid y pechodd fy meibion ac y canasant yn iach i Dduw yn eu calonnau.” Felly y gwnai Iöb bob amser.

6A bu, ar ddydd y daeth meibion Duw i ymorsafu ger bron Iehofah, fe ddaeth Satan hefyd yn eu plith hwy;

7a dywedodd Iehofah wrth Satan, “O ba le ’r ydwyt ti yn dyfod,” ac attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “O ddarymred ar hŷd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.”

8Yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “A ddeliaist ti dy sulw ar Fy ngwas Iöb? canys nid (oes) fel efe ar y ddaear, gwr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.”

9Yna yr attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “Ai yn ddïachos yr ofna Iöb Dduw?

10Onid Tydi a amgaëaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ ef, ac ynghylch yr hyn oll (sydd) eiddo oddi amgylch, ac a fendithiaist waith ei ddwylaw ef, a’i eiddo sy’n ymdaenu yn y ddaear?

11Eithr estyn, attolwg, Dy law a chyffwrdd â’r hyn oll (sydd) ganddo, (ac) yn ddïau, i’th wyneb y cân efe yn iach i Ti.”

12Yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “Wele yr hyn oll a’r (sydd) eiddo ef yn dy law di; yn unig arno ef nac estyn dy law;” ac aeth Satan allan oddi ger bron Iehofah.

13A bu, ar ddydd a’i feibion ef a’i ferched ef yn bwytta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,

14cennad a ddaeth at Iöb ac a ddywedodd, “Y gwartheg oedd yn aredig, a’r asenod yn pori ger llaw iddynt,

15ac fe syrthiodd Shabeaid (arnynt) a dygasant hwy, a’r llangciau, hwy a’u tarawsant â min y cleddyf; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:”

16a hwn etto yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth ac a ddywedodd, “Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd ac a losgodd y defaid a’r llangciau, ac a’u bwyttâodd hwynt; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:”

17a hwn etto yn llefaru, un arall a ddaeth ac a ddywedodd, “Y Caldëaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant ar y camelod, ac a’u dygasant hwy, a’r llangciau, hwy a’u tarawsant â min y cleddyf; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:”

18a hwn etto yn llefaru, un arall a ddaeth ac a ddywedodd, “Dy feibion a’th ferched (oedd) yn bwytta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,

19ac wele, gwỳnt mawr a ddaeth o’r tu hwnt i’r anialwch, ac a darawodd wrth bedair congl y tŷ, ac fe syrthiodd (hwn) ar y bobl ieuaingc, a hwy a drengasant; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:”

20Yna y cyfododd Iöb, ac a rwygodd ei fantell, ac a gneifiodd ei ben, ac a warogaethodd,

21ac a ddywedodd,

“Noeth y daethum o groth fy mam,

A noeth y dychwelaf yno,

Iehofah a roes, ac Iehofah a ddug ymaith,

Bydded enw Iehofah yn fendigedig.”

22Yn hyn i gyd ni phechodd Iöb, ac ni phrïodolodd efe ynfydrwydd i Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help