1Eiddo Dafydd. Psalm.
Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, “Eistedd ar Fy neheulaw,
Hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i’th draed.”
2Gwialen dy nerth a enfyn Iehofah o Tsïon,
Llywodraetha di ynghanol dy elynion!
3Dy bobl (ŷnt) barodrwydd yn nydd dy luedd;
Mewn addurn sanctaidd, o groth y wawr,
(Y mae) gennyt wlith dy ieuengctid!
4Tyngodd Iehofah,—ac nid edifarhâ,
“Tydi (wyt) offeiriad yn dragywydd
Yn ol dull Melcitsedec.”
5Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw
A friwia yn nydd Ei lid frenhinoedd;
6 Barna Efe ym mysg y cenhedloedd, lleinw (feusydd) â chelannedd,
Briwia ben ar ddaear faith!
7O’r afon ar y ffordd yr ŷf efe,
Am hynny y dyrcha efe (ei) ben.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.