I. Corinthiaid 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac myfi, pan ddaethum attoch, frodyr, a ddaethum, nid â rhagoroldeb ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi ddirgelwch Duw,

2canys penderfynais na wyddwn ddim yn eich plith oddieithr Iesu Grist, ac Ef yn groes-hoeliedig.

3Ac myfi, mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr yr oeddwn yn eich plith;

4ac fy ymadrodd a’m pregethiad nid oeddynt yng ngeiriau darbwyllus doethineb,

5eithr yn arddangosiad yr Yspryd a gallu, fel y byddai eich ffydd, nid yn noethineb dynion, eithr yn ngallu Duw.

6Ond doethineb a lefarwn ym mhlith y rhai perffaith; ond doethineb nid o eiddo y byd hwn, nac o eiddo llywodraethwyr y byd hwn y rhai sy’n myned yn ddiddym;

7eithr llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch yr ydym, yr hwn oedd guddiedig, yr hwn a rag-ordeiniodd Duw cyn na’r oesoedd i’n gogoniant ni;

8yr hwn ni fu i undyn o lywodraethwyr y byd hwn ei adnabod; canys pes adwaenasent, Arglwydd y gogoniant ni chroes-hoeliasent.

9Eithr fel yr ysgrifenwyd,

“Y pethau na fu i lygad eu gweled, a chlust ni chlywodd,

Ac i galon dyn nad esgynasant,

Cynnifer bethau ag a barottodd Duw i’r rhai sydd yn Ei garu;”

10ond i nyni y datguddiodd Duw hwynt trwy’r Yspryd; canys yr Yspryd a chwilia bob peth, hyd yn oed ddyfnderau Duw.

11Canys pwy o ddynion a ŵyr bethau dyn, oddieithr yspryd dyn, yr hwn sydd ynddo? Felly, pethau Duw hefyd, nid oes neb a’u gŵyr oddieithr Yspryd Duw.

12Ond nyni, nid yspryd y byd a dderbyniasom, eithr yr Yspryd y sydd oddiwrth Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni:

13y rhai hefyd a lefarwn, nid mewn geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, eithr a ddysgwyd gan yr Yspryd, gan gydmaru pethau ysprydol â phethau ysprydol.

14Ond y dyn anianol ni dderbyn bethau Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni all eu gwybod, gan mai yn ysprydol y bernir hwynt.

15Ond y dyn ysprydol a farn bob peth; ond ef ei hun ni fernir gan undyn.

16Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a’i cyfarwydda Ef? Ond nyni sydd a chenym feddwl Crist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help