Iöb 38 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXVIII.

1Yna yr attebodd Iehofah i Iöb allan o’r corwŷnt, a dywedodd,

2Pwy (yw) hwn sy’n tywyllu cynghor

Ag ymadroddion heb wybodaeth?

3Gwregysa, yn awr, dy lwynau fel gwr,

A gofynaf i ti, a gwna dithau i Mi wybod.

4Pa le’r oeddit ti pan sylfaenais I y ddaear?

Mynega os medri ar ddeall:

5Pwy a osododd ei mesurau hi, fel y gwypit,

Neu pwy a estynodd arni y llinyn,

6Ar ba beth y soddwyd ei seiliau hi,

Neu pwy a osododd ei chonglfaen

7Pan lawen-ganai ynghŷd ser y bore,

A gorfoleddu o holl feibion Duw;

8Ac a argaeodd ar y môr â dorrau,

Pan yn rhuthro allan, o’r grôth y daeth efe,

9Pan osodais gwmmwl yn wisg iddo

A’r niwl tew yn gaw iddo,

10Ac y pennodais iddo Fy nherfyn,

Ac y gosodais drosol a dorrau,

11Ac y dywedais “Hyd yma y deui ac ni chwanegi,

Ac yma y gosodir ef ar falchder dy donnau?”

12Er dy ddyddiau di, a orchymynaist ti y bore,

A hyspysaist ti i’r wawr-ddydd ei lle,

13Ar iddi ymaflyd ar odrëon y ddaear,

Ac ysgwyd o’r drwg weithredwŷr allan o honi;

14(Yna) yr yinnewidia hon fel clai ’r sêl,

Ac yr ymorsafant hwy fel gwisg,

15Ac y dygir ymaith oddi wrth ddrwg weithredwŷr eu goleuni,

A’r fraich wedi ei chodi a chwilfriwir?

16A ddaethost ti i eigion y môr,

Ac yn nirgelfaoedd y dyfnder a rodiaist ti?

17A agorwyd i ti byrth annwn,

A phyrth cysgod angeuaidd, a welaist ti (hwynt)?

18A wyt ti yn ardremu ar led y ddaear?

Hyspysa, os adnabyddi hi i gyd.

19Pa un (yw) ’r ffordd y trig y goleuni,

A’r tywyllwch, pa un (yw) ei le ef,

20Fel y cymmerit hwynt (bob un) hyd ei derfyn,

Ac fel y deallit y llwybrau i’w dŷ ef?

21 Gwybod yr wyt ti! canys yr amser hwnnw y’th anwyd di,

A nifer dy ddyddiau (sydd) fawr!

22 A ddaethost ti at drysorau ’r eira,

A thrysorau ’r cenllysg, a welaist ti (hwynt),

23 Y rhai yr wyf yn eu cadw hyd amser cyfyngder,

Hyd ddydd ymladd a rhyfel?

24Pa un (yw) ’r ffordd yr ymranna y goleuni,

Yr ymwasgar y dwyreinwỳnt ar y ddaear?

25Pwy a rannodd awellau i’r llifeir-wlaw,

A ffordd i fellt y taranau,

26I wlawio ar dir heb ddyn,

(Ar) yr anialwch heb ddaearolyn ynddo,

27I orddigoni ’r (tir) diffaeth a diffaethedig,

Fel y paro i dardd-le ’r glaswellt fwrw egin?

28A oes gan y gwlaw dad,

Neu, pwy a genhedlodd ddefnynnau ’r gwlith?

29O grôth pwy y daeth yr iâ allan;

A llwydrew y nefoedd, pwy a’i cenhedlodd?

30 Yn debyg i garreg, y dyfroedd a ymguddiant,

A gwyneb y dyfroedd a lyna ynghŷd.

31 A rwymaist di gadwynau ’r Pleiades;

Neu rwymau Orion, a ddattodi di (hwynt)?

32A ddygi di allan y Deuddeg Arwydd (bob un) yn ei amser?

A’r Arth a’i feibion, a dywysi di hwynt?

33A adwaenost ti ordeiniadau ’r nefoedd,

A bennodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

34A ddyrchefi di dy lef at y cwmmwl

Am i helaethrwydd o ddyfroedd dy orchuddio?

35A ddanfoni di allan fellt, fel yr elont,

Ac y dywedont wrthyt “Wele ni?”

36 Pwy a osododd yn y du gymmyliad ddoethineb,

Neu, pwy a roes i’r goruchion ddeall?

37Pwy a gyfrif y cymmylau trwy ddoethineb,

A chostrelau ’r nefoedd, pwy a’u gwaghâ,

38Pan y ffrydia ’r llwch yn ffrwd,

A’r priddellau a lynant ynghŷd?

39A heli di i’r llew ysglyfaeth;

A chwant cenawon y llew, a lenwi di ef,

40Pan ymgrymmant mewn ffeuau

(Ac) eistedd mewn prysglwyni i gynllwyn?

41Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd,

Pan fo ei chywion yn llefain ar Dduw

(A) hwythau yn gwibio heb fwyd?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help