1Gwell tammaid sych a thawelwch gydag ef,
Na thŷ llawn o ebyrth cynhennus.
2Caethwas pwyllog a deyrnasa ar fab gwarthus,
Ac ymhlith y brodyr y rhanna efe ’r etifeddiaeth.
3Y tawddlestr i ’r arian, a ’r ffwrn i ’r aur,
Ond profwr y calonnau (yw) Iehofah.
4Y drygionus a ddeil sulw ar wefus anwiredd,
Y gau a rydd glust i dafod dinystriol.
5A watwaro ’r anghenus (sy)’n goganu ei Greawdydd,
A lawenycho o herwydd adfyd, ni ddïeuogir.
6Coron henafgwyr (yw) plant plant,
Ac addurn y plant (yw) eu tadau.
7Nid gweddus i ’r ynfyttyn wefus rhagoriaeth,
Llai o lawer i ’r godidog, wefus gau.
8Maen gwerthfawr (sydd) hudwobr yngolwg ei dderbynydd,
At bwy bynnag y delo, y ffynna.
9A guddio gamwedd a gais gariad,
Ond a’(i) hailadroddo mewn ymadrodd a wahana gyfaill.
10Sudda sen i’r synhwyrol,
Mwy na tharaw ’r ynfyd ganwaith.
11Nid dim ond gwrthryfel a gais y drygionus,
Ond cenhadwr creulon a anfonir yn ei erbyn.
12Deued arthes, amddifad o’i chenawon, i gyfarfod â dyn,
Ond nid yr ynfyd yn ei ynfydrwydd!
13A dalo ddrwg dros dda,
Ni chilia drwg o’i dŷ ef.
14Un yn gollwng allan ddyfroedd (yw) dechreuad ymryson,
Cyn ennynu o’r gynhen, gâd heibio!
15A gyfiawnhâo ’r euog, ac a euogo ’r cyfiawn,
Ffieiddbeth gan Iehofah (ynt) ill dau.
16I ba beth y tâl arian yn llaw yr ynfyd
I brynu doethineb,—pan nad oes meddwl (ganddo)?
17 Pob amser y câr cyfaill,
Ac yn frawd, mewn cyfyngder, y genir ef.
18Dyn diffygiol o feddwl (yw) ’r hwn a o flaen ei gyfaill.
19Carwr camwedd (yw) carwr cweryl,
A ddyrchafo ei ddrws a gais ddistryw.
20Y gŵyr-dröawg o galon ni chaiff ddaioni,
A’r trofäus yn ei dafod a syrth i ddrwg.
21A genhedlo un ffol, i’w dristwch (y bydd),
Ac ni lawenycha tad yr ynfyd.
22Calon lawen a rŷdd iachâd da,
Ond yspryd briwedig a sych yr esgyrn.
23Hudwobr o’r fynwes a dderbyn yr annuwiol,
I ogwyddo llwybrau uniondeb.
24O flaen gwyneb y pwyllog (y mae) doethineb,
Ond llygaid yr ynfyd (sydd) ynghyrrau ’r ddaear.
25Blinder i’w dad (yw) mab ynfyd,
A chwerwder i’r hon a esgorodd arno.
26Hefyd dirwyo ’r cyfiawn,—nid da (yw),
(Neu) daraw ’r gonest, yn groes i uniondeb.
27A attalio ei eiriau (sydd) dragwybodus,
A’r difrwd o yspryd (sydd) wr synhwyrol.
28Hyd yn oed yr ynfyd, tra tawo,—doeth y cyfrifir ef,
(A) thra cauo ei wefusau,—yn ddeallus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.