1Fel eira yn yr haf, ac fel gwlaw yn y cynhauaf,
Felly nid gweddus i’r ynfyd anrhydedd.
2Fel aderyn y tô yn crwydro fel gwennol yn ehedeg,
Felly melldith ddïachos ni ddaw.
3Ffrewyll i’r march, ffrwyn i’r asyn,
A gwialen i gefn yr ynfydion.
4Nac atteb yr ynfyd yn ol ei ffolineb,
Fel na’th gystadler dithau hefyd âg ef.
5Atteb yr ynfyd yn ol ei ffolineb,
Rhag myned o hono yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6 Tyr ymaith ei draed ei hun, a thrais a ŷf
A ddanfono fatterion trwy law’r ynfyd.
7Honcia esgeiriau ’r cloff,
A dïareb yngenau ’r ynfydion.
8Fel a rwymo garreg mewn tafl,
Felly a roddo i’r ynfyd anrhydedd.
9Draenen a dderchafwyd yn llaw ’r meddw,
A dïareb yngenau ’r ynfydion.
10 Saethwr a archollo bawb,
Ac a gyflogo ’r ynfyd, ac a gyflogo ’r tramwywyr heibio.
11Fel ci yn dychwelyd at ei chwydfa
(Y mae)’r ynfyd, yn adwneuthur yn ei ffolineb.
12A welaist ti un doeth yn ei olwg ei hun?
(Y mae) gobaith am yr ynfyd, rhagor am dano ef.
13Dywaid y swrth “Rhuedydd yn y ffordd!
Llew yn yr seithwyr a roddant atteb synhwyrol.
17Ymafael ynghlustiau ci (y mae)
Tramwywr yn ymddigio am gynhen nid yr eiddo ef
18Fel cynddeiriogyn yn taflu pentewynion,
Saethau, ac angau,
19Felly y gwr a dwyllodd ei gymmydog,
Ac a ddywaid, “Onid cellwair (yr oeddwn) i?”
20Yn niffyg coed y diffydd tân,
A lle nad oes hustyngwr, y gostega cynhen.
21Glo i ’r marwor, a choed i ’r tân,
A dyn cynhennus—i ennynu dadl.
22Geiriau ’r hustyngwr (sydd) megis cellweiriawl,
Ond hwynt-hwy a ddisgynant i Arian sothachlyd wedi ei wisgo am briddlestr,
Felly gwefusau gwresog a chalon ddrwg.
24A ’i wefusau yr ymffuanta cashâwr,
Ond tu mewn iddo ei hun y dyd efe dwyll;
25Er tirioni o hono ei lais, na chred ef,
Canys saith ffieidd-dra (sydd) yn ei galon.
26Cuddir casineb trwy dwyll,
(Ond) datguddir ei ddrygioni yn y gynnulleidfa.
27A gloddio bydew, ynddo y syrth,
Ac a dreiglo garreg, arno ef y dychwel hi.
28Tafod gau a gashâ ei faluriwr,
A genau llyfn a ddarpar ddymchweliad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.