S. Marc 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A thrachefn y dechreuodd ddysgu yn ymyl y môr; ac ymgasglodd Atto dyrfa ddirfawr, fel y bu Iddo, wedi myned i’r cwch, eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa, yn ymyl y môr, ar y tir yr oeddynt.

2A dysgodd iddynt, mewn damhegion, lawer o bethau; a dywedodd wrthynt yn Ei ddysgad, Gwrandewch.

3Wele, allan yr aeth yr hauwr i hau.

4A bu wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef.

5Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle ni chafodd ddaear lawer, ac yn uniawn yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear;

6a phan gododd yr haul, llosgwyd ef; a chan nad oedd ganddo wreiddyn, gwywodd.

7Ac arall a syrthiodd ymhlith y drain; a daeth y drain i fynu, a thagasant ef, a ffrwyth ni roddes efe.

8Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a rhoddasant ffrwyth, gan dyfu i fynu a chynnyrchu; a dygasant, yn ddeg ar hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant.

9A dywedodd Efe, Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10A phan yr oedd Efe ar Ei ben Ei hun, gofynodd y rhai o’i amgylch ynghyda’r deuddeg Iddo am y damhegion;

11a dywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch teyrnas Dduw wedi ei roddi; ond iddynt hwy, y rhai tu allan,

12mewn damhegion y mae’r cwbl, fel yn gweled y gwelont ac na chanfyddont; ac yn clywed y clywont ac na ddeallont; rhag ysgatfydd iddynt ddychwelyd ac y maddeuer iddynt.

13A dywedodd wrthynt, Oni wyddoch y ddammeg hon? A pha fodd y bydd yr holl ddamhegion yn hysbys i chwi?

14Yr hauwr, y Gair y mae efe yn ei hau; a’r rhai hyn yw’r rhai ar ymyl y ffordd lle’r hauir y Gair,

15a phan glywont, yn uniawn dyfod y mae Satan, ac yn dwyn ymaith y Gair a hauwyd ynddynt.

16A’r rhai hyn ydynt, yr un ffunud, y rhai a hauwyd ar y creigleoedd, y rhai pan glywont y Gair, yn uniawn gyda llawenydd y derbyniant ef,

17ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr am amser y maent: wedi hyny, pan gyfodo blinder neu erlid o achos y Gair, yn uniawn y tramgwyddir hwy.

18Ac eraill sydd, y rhai a hauwyd ymhlith y drain;

19y rhai hyn yw y rhai a glywant y Gair, a phryder y byd a thwyll golud, ac y chwantau am y pethau eraill, gan ddyfod i mewn, a dagant y Gair; ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned.

20A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ar y tir da; y rhai a glywant y Gair ac a’i derbyniant, ac a ddygant ffrwyth, yn ddeg ar hugain, yn dri ugain, ac yn gant.

21A dywedodd wrthynt, A fydd y llusern yn dyfod fel tan y llestr y’i doder, neu dan y gwely? Onid fel ar safle’r llusern y’i doder?

22Canys nid oes dim cuddiedig, oddieithr fel yr amlyger ef, na dim wedi ei wneuthur yn ddirgel, ond fel y deuai i’r amlwg.

23Os yw neb a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.

24A dywedodd wrthynt, Edrychwch pa beth a glywch. A pha fesur y mesurwch, y mesurir i chwi;

25a rhoddir yn ychwaneg i chwi; canys yr hwn sydd a chanddo, rhoddir iddo; a’r hwn sydd heb ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26A dywedodd, Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel pe bai dyn yn bwrw’r had ar y ddaear;

27a chysgu, a chodi nos a dydd, ac yr had a egina ac a dyfa, y modd na wyr efe;

28canys o honi ei hun y mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth, yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen,

29ar ol hyny y llawn ŷd yn y dywysen: a phan ganiattao y ffrwyth, yn uniawn y denfyn efe y cryman, o herwydd dyfod o’r cynhauaf.

30A dywedodd, Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw? Ac ym mha ddammeg ygosodwn hi?

31Cyffelybwn hi i ronyn o had mwstard, yr hwn pan hauer yn y ddaear, y lleiaf o’r holl hadau ar y ddaear yw;

32ac wedi’r hauer, myned i fynu y mae, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mawrion, fel tan ei gysgod y gall ehediaid y nefoedd lettya.

33Ac â chyfryw ddamhegion lawer y llefarodd iddynt y Gair,

34fel yr oeddynt yn medru Ei glywed, ac heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ond o’r neilldu i’w ddisgyblion yr esponiodd bob peth.

35A dywedodd wrthynt y dydd hwnw, a’r hwyr wedi dyfod, Awn trosodd i’r tu draw.

36Ac wedi gollwng ymaith y dyrfa, cymmerasant Ef yn ebrwydd i’r cwch. Ac yr oedd cychod eraill gydag Ef.

37A digwyddodd tymhestl fawr o wynt, a’r tonnau a gurent i’r cwch, fel mai llenwi yn awr yr oedd y cwch:

38ac Efe oedd yn y pen ol i’r cwch, yn cysgu ar y gobennydd. A deffroisant Ef, a dywedasant Wrtho, Athraw, onid gwaeth Genyt ein bod ar ddarfod am danom?

39Ac wedi codi o Hono, dwrdiodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, Gostega; distawa. A pheidiodd y gwynt; a bu tawelwch mawr.

40A dywedodd Efe wrthynt, Paham mai ofnog ydych? Onid oes genych etto ffydd?

41Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help