1Gweddi un cystuddiedig pan lesmeirio, ac y tywallto efe allan ei gŵyn o flaen Iehofah.
2O Iehofah, clyw fy ngweddi;
A’m llefain,—attat Ti y delo!
3Na chudd Dy wyneb oddi wrthyf yn y dydd (y mae) cyfyngder arnaf,
Gogwydda attaf Dy glust,
Yn y dydd y galwyf brysia i’m gwrando!
4Canys darfod mewn mŵg a wnaeth fy nyddiau,
A’m hesgyrn, fel pentewyn, a losgwyd;
5Tarawyd, fel llysieuyn, a gwywodd fy nghalon,
Fel yr anghofiais fwytta fy mara;
6Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd;
7Tebyg wyf i belican yr anialwch,
Aethum fel dylluan yr anghyfanneddfëydd;
8Digwsg wyf, ac aethum
Fel aderyn unig ar ben to;
9Beunydd y’m gwaradwydda fy ngelynion,
Y rhai cynddeiriog yn f’erbyn,— wrthyf y tyngant:
10 Canys lludw, fel bara, a fwyttëais,
A’m dïod, âg wylofain y’i cymmysgais,
11O flaen Dy lid a’th ddigofaint,
Canys estynedig,
A myfi, fel llysieuyn y gwywais,
13Ond Tydi, O Iehofah, yn dragywydd yr wyt orseddawg,
A’th goffadwriaeth (sydd) yn oes oesoedd:
14Tydi a gyfodi (ac) a drugarhêi wrth Tsïon,
Canys amser (yw) i drugarhau wrthi,
Ië, daeth yr amser nodedig;
15 Canys hoffa Dy weision ei meini,
Ac wrth ei lludw y tosturiant;
16Ac fe ofna ’r cenhedloedd enw Iehofah,
A holl frenhinoedd y ddaear Dy ogoniant,
17O herwydd adeiladu o Iehofah Tsïon,
Ymddangos o Hono yn Ei ogoniant,
18Troi o Hono at weddi’r llwyr amddifad,
Ac na ddirmygodd eu gweddi:
19Ysgrifenir hyn i genhedlaeth i ddyfod,
A phobl a greïr a foliannant Iah,
20O herwydd edrych o Hono o’i uchelder sanctaidd,
Ac i Iehofah o’r nefoedd olygu ’r ddaear,
21Er mwyn gwrando ar uchenaid y carcharor,
Er mwyn rhyddhau plant angau;
22Fel yr adroddo dyn yn Tsïon enw Iehofah,
A’i foliant yn Ierwshalem,
23Pan ymgasglo ’r bobloedd ynghŷd,
A theyrnasoedd, i wasanaethu Iehofah.
24Gostyngodd Efe fy nerth ar y ffordd,
Byrhâodd fy nyddiau;
25Dywedyd yr wyf, “Na chymmer fi ymaith ynghanol fy nyddiau,
Yn oes oesoedd (y mae) Dy flynyddoedd Di;
26Er ys talm y ddaear a seiliaist,
A gwaith Dy ddwylaw (yw)’r nefoedd,
27Hwynt-hwy a ddifethir, eithr Tydi a barhêi,
A hwy oll, fel dilledyn, a heneiddiant,
Fel gwisg y newidi hwynt, a newidir hwy;
28Eithr Tydi yr un (ydwyt),
A’th flynyddoedd ni ddarfyddant:
29—Meibion Dy weision a breswyliant (eu gwlad)
A’u hâd, ger Dy fron Di y’i sicrhêir!”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.