1Y traethawd cyntaf a wnaethum, O Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur ac eu dysgu,
2hyd y dydd pan, wedi gorchymyn, trwy’r Yspryd Glân, i’r apostolion a etholasai, y cymmerwyd Ef i fynu;
3i’r rhai hefyd y dangosodd Ei hun yn fyw, wedi Iddo ddioddef, trwy lawer o brofion, yn cael am ddeugain niwrnod Ei weled ganddynt, ac yn dywedyd y pethau am deyrnas Dduw;
4ac wedi ymgynnull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt beidio ag ymadael o Ierwshalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn (ebr Efe) a glywsoch Genyf;
5canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Yspryd Glân cyn nemmawr o ddyddiau.
6Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
7A dywedodd wrthynt, Nid i chwi y mae gwybod yr amseroedd a’r prydiau, y rhai y mae’r Tad wedi eu gosod yn Ei feddiant Ei hun.
8Eithr derbyniwch allu, wedi dyfod o’r Yspryd Glân arnoch, a byddwch Fy nhystion I yn Ierwshalem ac yn holl Iwdea a Shamaria ac hyd eithaf y ddaear.
9Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a hwy yn edrych, cymmerwyd Ef i fynu, a chwmmwl a’i derbyniodd Ef allan o’u golwg.
10A phan yr oeddynt yn craffu ar y nef, wrth fyned o Hono, ac wele, dau ŵr a safasant gerllaw iddynt, mewn gwisgoedd gwynion,
11y rhai hefyd a ddywedasant, Dynion o Galilea, paham y sefwch yn edrych i’r nef? Yr Iesu hwn, yr Hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly, yn y modd y gwelsoch Ef yn myned i’r nef.
12Yna y dychwelasant i Ierwshalem o’r mynydd a elwir mynydd yr Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Ierwshalem, ag iddo daith Sabbath.
13A phan ddaethent i mewn i’r oruch-ystafell yr aethant i fynu, lle yr arhosai Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholemëus a Matthew, Iago mab Alphëus, a Shimon Zelotes, ac Iwdas brawd Iago.
14Y rhai hyn oll oeddynt yn parhau yn gyttun mewn gweddi ynghyda’r gwragedd a Mair mam yr Iesu, ac ynghyda’i frodyr Ef.
15Ac yn y dyddiau hyny, wedi cyfodi o Petr ynghanol y brodyr, dywedodd (ac yr oedd lliaws o enwau ynghyd, o ddeutu ugain a chant),
16Gwŷr frodyr, rhaid oedd i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Iwdas, yr hwn a aeth yn dywysydd i’r rhai a ddaliasant yr Iesu.
17Canys cyfrifwyd ef yn ein plith, a chafodd ei ran o’r weinidogaeth hon.
18(Hwn yn wir, gan hyny, a gafodd faes â gwobr ei anghyfiawnder, a chan syrthio yn bendramwnwgl y torrodd yn ei ganol,
19a thywalltwyd allan ei holl ymysgaroedd: a hyspys fu hyn i bawb yn preswylio yn Ierwshalem, fel y galwyd y maes hwnw, yn eu hiaith, Aceldama, hyny yw, Maes gwaed).
20Canys ysgrifenwyd yn Llyfr y Psalmau,
“Bydded ei gorlan yn anghyfannedd,
Ac na fydded a drigo ynddi,”
ac
“A’i oruchwyliaeth cymmered arall.”
21Am hyny, y mae rhaid i un o’r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith,
22gan ddechreu o fedydd Ioan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddiwrthym, i un o’r rhai hyn fyned yn dyst o’i adgyfodiad, ynghyda ni.
23A gosodasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a elwid Barshabas ac a gyfenwid Iustus, a Matthïas;
24a chan weddïo, dywedasant, Tydi, Arglwydd, yr Hwn a wyddost galonnau pawb,
25dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, i dderbyn y lle yn y weinidogaeth hon a’r apostoliaeth, o’r hon y syrthiodd Iwdas ymaith i fyned i’w le ei hun.
26A rhoisant goel-brennau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthïas, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.