1Ac wedi myned i mewn i gwch, yr aeth Efe trosodd, a daeth i’w ddinas Ei hun.
2Ac wele, dygasant Atto ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd ar wely; a chan weled o’r Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Bydd hyderus, fy mab, maddeuwyd dy bechodau di.
3Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
4A chan wybod o’r Iesu eu meddyliau, dywedodd, Paham y meddyliwch bethau drwg yn eich calonau?
5canys pa un sydd hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd dy bechodau di, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
6Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywedodd wrth y claf o’r parlys), Cyfod a chymmer i fynu dy wely di, a dos i’th dŷ.
7Ac wedi cyfodi, yr aeth efe ymaith i’w dŷ.
8Ac wedi gweled o’r torfeydd, ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roisai awdurdod o’r fath i ddynion.
9Ac wrth fyned heibio o’r Iesu oddi yno, gwelodd ŵr yn eistedd wrth y dollfa, Matthew wrth ei enw, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; a chyfododd efe, a chanlynodd Ef.
10A bu ac Efe yn lled-orwedd wrth y ford yn y tŷ, ac wele llawer o dreth-gymmerwŷr a phechaduriaid wedi dyfod, a gyd-ledorweddasant â’r Iesu a’i ddisgyblion.
11A phan welodd y Pharisheaid hyn, dywedasant wrth Ei ddisgyblion, Paham mai ynghyda’r treth-gymmerwŷr a phechaduriaid y bwytty eich Athraw?
12Ac Efe, wedi clywed, a ddywedodd, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai drwg eu hwyl.
13Ond ewch a dysgwch pa beth yw, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth;” canys ni ddaethum i alw cyfiawnion, ond pechaduriaid.
14Yna y daeth Atto ddisgyblion Ioan, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Pharisheaid yn ymprydio yn fynych, a’th ddisgyblion Di nid ydynt yn ymprydio?
15A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell-briodas alaru tra ynghyda hwynt y mae’r priod-fab? Ond daw’r dyddiau pan ddygir y priod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
16Ac nid yw neb yn dodi darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen, canys cymmer ei gyflawniad oddiwrth y cochl, a rhwyg gwaeth a wneir.
17Ac nid ydynt yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen: onite torrir y costrelau, a’r gwin a red allan, ac am y costrelau y derfydd; eithr dodant win newydd mewn costrelau newyddion, a’r ddau a gyd-gedwir.
18Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, wele, rhyw bennaeth a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Fy merch sydd newydd farw: eithr tyred a gosod Dy law arni, a byw fydd.
19Ac wedi cyfodi, yr Iesu a’i canlynodd ef, ac Ei ddisgyblion.
20Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, wedi dyfod Atto ac o’r tu cefn, a gyffyrddodd ag ymyl Ei gochl,
21canys dywedodd ynddi ei hun, Os cyffyrddaf yn unig â’i gochl, iach fyddaf.
22A’r Iesu wedi troi a’i gweled hi, a ddywedodd, Bydd hyderus, Fy merch: dy ffydd a’th iachaodd; ac iachawyd y wraig o’r awr honno.
23Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ’r pennaeth, a chan weled y pibyddion a’r dyrfa yn terfysgu,
24dywedodd, Ciliwch, canys ni bu farw y llangces, eithr cysgu y mae: a chwarddasant am Ei ben Ef.
25Ond pan fwriasid y dyrfa allan, wedi myned i mewn yr ymaflodd Efe yn ei llaw hi, a chyfododd y llangces.
26Ac aeth y sôn am hyn allan dros yr holl wlad honno.
27Ac wrth fyned heibio o’r Iesu oddi yno, canlynodd dau ddyn dall Ef, gan waeddi a dywedyd, Trugarhâ wrthym, fab Dafydd.
28Ac wedi dyfod o Hono i’r tŷ, daeth y deillion Atto; a dywedodd yr Iesu wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf wneuthur hyn? Dywedasant Wrtho, Ydym, Arglwydd.
29Yna y cyffyrddodd Efe â’u llygaid, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.
30Ac agorwyd eu llygaid hwynt; a chaeth-orchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch na fydded i neb wybod.
31Ond hwy, wedi myned allan, a daenasant y son am Dano yn yr holl wlad honno.
32Ac a hwy yn myned allan, wele, dygodd rhai Atto ddyn mud cythreulig;
33a phan fwriasid y cythraul allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd, gan ddywedyd, Erioed nid ymddangosodd dim fel hyn yn Israel.
34Ond y Pharisheaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid.
35Ac aeth yr Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu efengyl y deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd.
36Ac wrth weled y torfeydd, tosturiodd wrthynt am eu bod yn llesg a’u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail.
37Yna y dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: attolygwch, gan hyny, i Arglwydd y cynhauaf, anfon allan weithwyr i’w gynhauaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.