1I’r blaengeiniad. (Psalm) o eiddo gwas Iehofah, (sef) o eiddo Dafydd.
2Oraclaidd leferydd pechod (sydd) i’r annuwiol ynghanol ei galon,
Nid (oes) arswyd Duw o flaen ei lygaid;
3Ond ei wenieithio ef a wna (pechod), o flaen ei lygaid,
Rhag canfod o hono ei anwiredd, rhag (iddo ei) gashâu;
4Geiriau ei enau (sy) ddrygioni a thwyll,
Peidiodd â bod yn gall, a gwneuthur da;
5Drygioni a amcana efe ar ei wely,
Gesyd ei hun ar ffordd nad (yw) dda,
A drwg nid ymwrthod efe.
6O Iehofah, hyd at y nefoedd (y mae) Dy radlondeb,
Dy wirionedd (sydd) hyd y cymmylau;
7Dy gyfiawnder (sy) fel mynyddoedd Duw,
Dy farnedigaethau fel y dyfnder mawr;
Dyn a bwystfil, yr wyt yn eu cymmorth, O Iehofah.
8Mor werthfawr (yw) Dy radlondeb Di, O Dduw!
A meibion dynion, ynghysgod Dy adennydd yr ymnoddant hwy,
9Gorlenwir hwy o frasder Dy dŷ,
Ac âg afon Dy bleserau y dïodi hwynt,
10Canys gyda Thydi (y mae) ffynnon bywyd,
Yn Dy oleuni Di y gwelwn oleuni:
11Gorestyn Dy radlondeb i’r rhai a’th adwaenont,
A Dy gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon:
12Na ddeued arnaf droed balchder,
A llaw’r drygionus rai, na wnaed hi fi yn grwydryn!
Yno y syrthiodd gweithwyr drygioni,
Gwthiwyd hwynt i lawr, ac heb allu o honynt gyfodi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.