1A bu yn nyddiau Ahaz mab Iotham mab Wzzïah brenhin Iwdah esgyn o Retsin Brenhin Syria, a Phecah mab Remalïah, Brenhin Israel, i Ierwshalem i ryfela yn ei herbyn; ond ni allodd ei gorchfygu.
2A mynegwyd i dŷ Ddafydd, gan ddywedyd, Gorphwysodd Syria ar Ephraim. A chyffrôdd ei galon ef, a chalon ei bobl, megis y cyffrôir preniau y coed o flaen y gwỳnt.
3A dywedodd Iehofah wrth Eshaiah, Dos allan yn awr i gyfarfod Ahaz, ti a Shear-Iashwb dy fab, wrth ben awell y llyn uchaf wrth sarn maes y pannwr,
4A dywed wrtho :—
Gwylia, a bydd lonydd; nac ofna, a’th galon na feddalhâed,
Rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn,
Rhag angerdd llid Retsin, a Syria, a mab Remalïah.
5Canys dyfeisiodd 2Syria 3ddrwg,『1yn dy erbyn,』
(Ac) Ephraim a mab Remalïah, gan ddywedyd,
6Esgynwn yn erbyn Iwdah a blinwn hi,
A thorrwn hi i ni ein hunain,
A gosodwn frenhin yn ei chanol hi
(Sef) mab Tabeal.
7Fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah,
Ni saif (eu cynghor), ac ni bydd.
8Er mai pen Syria (yw) Damascus,
A phen Damascus Retsin;
Etto o fewn tri ugain a phump o flynyddoedd
Y torrir Ephraim rhag bod yn bobl,
9Er mai pen Ephraim (yw) Samaria,
A phen Samaria mab Remalïah.
Oni sicr-gredwch, dïau, ni ’ch sicrhêir.
10A’chwanegodd Iehofah lefaru wrth Ahaz gan ddywedyd; —
11Gofyn it’ arwydd gan Iehofah dy Dduw,
Dos yn ddwfn hyd uffern neu i’r uchelder uchod.
12A dywedodd Ahaz, Ni ofynaf, ac ni themtiaf Iehofah,
13A dywedodd yntau;
Gwrandêwch yn awr, tŷ Ddafydd!
Ai bychan gennych flino dynion,
Fel y blinech hefyd fy Nuw?
14Am hynny y dyry fy Arglwydd Ei hun i chwi arwydd.
Wele y Forwyn a feichiogodd, ac yn esgor ar fab,
Ac a eilw ei enw ef Immanwel:
15 Ymenyn a mel a fwytty efe
Pan ŵyr i ymwrthod â’r drwg ac ethol y da;
16Canys cyn gwybod o’r bachgen
I ymwrthod â’r drwg ac ethol y da
Anghyfanneddir y wlad (honno),
Yr hon y’th dorrir di ganddi
Ger bron ei dau frenhin.
17Fe ddwg Iehofah arnat ti,
Ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dad,
Ddyddiau y rhai ni ddaethant
Er y dydd yr ymadawodd Ephraim oddi wrth Iwdah,
(Sef) Brenhin Assyria.
18A bydd yn y dydd hwnnw,
Y chwibana Iehofah am y gwybedyn
Yr hwn (sydd) yn eithaf afonydd yr Aipht,
Ac am y wenhynen yr hon (sydd) yn nhir Assyria.
19A hwy a ddeuant ac a orphwysant oll
Yn y dyffrynoedd anghyfanneddol, ac yn agennau ’r creigiau,
Ac yn yr holl ddraen-llwyni, ac yn yr holl ogofau.
20Yn y dydd hwnnw yr eillia ’r Arglwydd âg ellyn cyflogedig,
(Sef) â’r rhai tu hwnt i’r afon, â Brenhin Assyria,
Y pen a blew’r traed;
A’r farf hefyd a ddifethir.
21A bydd yn y dydd hwnnw,
Os maga dyn anner-fuwch a dwy ddafad,
22Y bydd, o amlder rhodd y llaeth y bwytty efe ymenyn;
Ië, ymenyn a mel a fwytty
Pawb a adewir ynghanol y tir.
23A bydd yn y dydd hwnnw,
Pob lle, yr hwn y bu ynddo fil o winwŷdd
(Gwerth) mil o (ddarnau) arian,
Yn fieri ac yn ddrain y bydd efe.
24Â saethau ac â’r bwa y daw (dyn) yno,
Canys yn fieri ac yn ddrain yr aiff yr holl wlad.
25A’r holl fynyddoedd, y rhai â cheibiau a geibir,
Ni ddaw yno ofn mieri a drain,
Ond bydd yn hebryngfa ’r ŷch ac yn sathrfa’r ddafad,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.