1A nesaodd gwyl y bara croew, yr hon a elwir y Pasg,
2a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd y difethent Ef, canys ofnent y bobl.
3Ac aeth Satan i mewn i Iwdas yr hwn a elwir Ishcariot, ac ef o rifedi’r deuddeg.
4Ac wedi myned ymaith, ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r capteniaid pa fodd y traddodai Ef iddynt.
5A llawen oedd ganddynt, a chyttunasant ar roddi iddo arian;
6a chydsyniodd efe, a cheisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef iddynt yn absen y dyrfa.
7A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasg;
8a danfonodd Efe Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch a pharotowch i ni y Pasg fel y bwyttaom.
9A hwy a ddywedasant Wrtho, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom?
10Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Wele, wedi myned o honoch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ysten o ddwfr; canlynwch ef i’r tŷ i’r hwn yr aiff i mewn;
11a dywedwch wrth ŵr y tŷ, Dywedyd wrthyt y mae’r Athraw, Pa le y mae’r westfa, lle y bwyttawyf y Pasg ynghyda’m disgyblion?
12ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr wedi ei thanu; yno parottowch.
13Ac wedi myned ymaith cawsant fel y dywedasai wrthynt, a pharottoisant y Pasg.
14A phan ddaeth yr awr, lled-orweddodd, ac yr apostolion gydag Ef.
15A dywedodd wrthynt, Mawr-chwennychais fwytta’r Pasg hwn gyda chwi cyn i Mi ddioddef,
16canys dywedaf wrthych na fwyttaf mo hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.
17Ac wedi cymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, dywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith,
18canys dywedaf wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden nes i deyrnas Dduw ddyfod.
19Ac wedi cymmeryd bara a rhoddi diolch, torrodd a rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw Fy nghorph yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei roddi;
Hyn gwnewch er cof am Danaf;
20ac y cwppan yr un ffunud, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw’r cyfammod newydd yn Fy ngwaed, yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei dywallt allan.
21Eithr wele, llaw yr hwn sydd yn Fy nhraddodi, gyda Mi y mae ar y bwrdd;
22canys Mab y Dyn yn wir, yn ol yr hyn a benderfynwyd y mae yn myned; eithr gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Efe yn cael Ei draddodi.
23A hwy a ddechreuasant ymholi â’u gilydd, Pwy ysgatfydd o honynt oedd yr hwn ar fedr gwneud hyn.
24A bu ymryson yn eu plith, Pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
25Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Brenhinoedd y cenhedloedd a arglwyddiaethant arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, cymmwynaswyr y’u gelwir.
26Ond chwychwi, nid felly y byddwch; eithr y mwyaf yn eich plith, bydded fel yr ieuangaf; a’r pennaf, fel yr hwn sy’n gweini.
27Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sy’n lled-orwedd wrth y bwrdd, neu’r hwn sy’n gweini? Onid yr hwn yn ei led-orwedd? Ond Myfi, yn eich mysg yr wyf fel yr hwn sy’n gweini.
28A chwychwi yw y rhai a arhoswch gyda Mi yn Fy mhrofedigaethau;
29ac Myfi wyf yn pennodi i chwi, fel y pennododd Fy Nhad i Mi,
30deyrnas, fel y bwyttaoch ac yr yfoch wrth Fy mwrdd yn Fy nheyrnas; ac eisteddwch ar orsedd-feinciau yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31Shimon, Shimon, wele, Satan a’ch gofynodd, er mwyn eich nithio fel gwenith;
32ond Myfi a ddeisyfiais drosot na ddiffygiai dy ffydd; a thydi, wedi dy droi ysgatfydd, cadarnha dy frodyr.
33Ac efe a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, ynghyda Thi, parod wyf i fyned i garchar, ac i angau hefyd.
34Ac Efe a ddywedodd, Dywedaf wrthyt, Petr, ni chân heddyw geiliog nes tair gwaith wadu o honot nad adweini Fi.
35A dywedodd wrthynt, Pan ddanfonais chwi heb bwrs a chod ac esgidiau, a oedd rhyw beth yn ol i chwi? A hwy a ddywedasant, Nac oedd ddim.
36Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yn awr, yr hwn sydd a chanddo bwrs, cymmered; yr un ffunud hefyd, god; a’r hwn nad oes ganddo, gwerthed ei gochl, a phryned gleddyf;
37canys dywedaf wrthych, Y peth hwn a ysgrifenwyd, y mae rhaid ei gyflawni Ynof, sef,
“A chyda throseddwyr y cyfrifwyd,”
canys yr hyn a ’sgrifenwyd am Danaf sydd ag iddo ddiben.
38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma; ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39Ac wedi myned allan, yr aeth, yn ol Ei arfer, i fynydd yr Olewydd; ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd y disgyblion.
40A phan yr oedd yn y fan, dywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth.
41Ac Efe a dynwyd oddiwrthynt tuag ergyd carreg, ac wedi dodi Ei liniau ar lawr,
42gweddïodd, gan ddywedyd, O Dad, os mynni, dwg heibio y cwppan hwn oddi Wrthyf; er hyny, nid Fy ewyllys I, eithr yr eiddot Ti, a wneler.
43Ac ymddangosodd Iddo angel o’r nef, yn Ei nerthu Ef.
44A chan fod mewn ing, yn ddyfalach y gweddïodd; ac aeth Ei chwys fel defnynau mawrion o waed, yn disgyn ar y ddaear.
45Ac wedi codi o’i weddi, ac wedi myned at y disgyblion, cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch,
46a dywedodd wrthynt, Paham y cysgwch? Codwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth.
Ac Efe etto yn llefaru, wele dyrfa, ac yr hwn a elwir Iwdas,
47un o’r deuddeg, a ddaeth Atto, a nesaodd at yr Iesu i’w gusanu Ef.
48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iwdas, ai â chusan Mab y Dyn a draddodi? A chan weled o’r rhai o’i amgylch yr hyn oedd ar ddigwydd,
49dywedasant, Arglwydd, a darawn ni â chleddyf?
50A tharawodd rhyw un o honynt was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd,
51Gadewch hyd yn hyn: ac wedi cyffwrdd â’r glust, iachaodd ef. A dywedodd yr Iesu wrth y rhai oedd yno yn Ei erbyn,
52yn archoffeiriaid a chapteniaid y deml ac henuriaid, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn.
53Pan beunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylaw i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi ac awdurdod y tywyllwch.
54Ac wedi Ei ddal Ef, dygasant ac aethant ag Ef i dŷ yr archoffeiriad; a Petr a ganlynai o hirbell.
55Ac wedi cynneu tân ynghanol y llys a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yn eu canol.
56A phan welodd rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, dywedodd, A hwn hefyd, gydag Ef yr oedd.
57Ac efe a wadodd, gan dywedyd, Nid adwaen i Ef, O wraig.
58Ac ar ol ychydig, un arall, gan ei weled ef, a ddywedodd, A thydi, o honynt yr wyt.
59A Petr a ddywedodd, O ddyn, nid wyf. Ac wedi yspaid o oddeutu awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, hwn hefyd oedd gydag Ef, canys Galilead hefyd yw.
60A dywedodd Petr, Y dyn, nis gwn pa beth a ddywedi. Ac allan o law, tra etto y llefarai efe, canodd ceiliog!
61Ac wedi troi, yr Arglwydd a edrychodd ar Petr; a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu fel y dywedodd wrtho, “Cyn i geiliog ganu heddyw, gwedi Fi dair gwaith;”
62ac wedi myned i’r tu allan, gwylodd yn chwerw.
63A’r dynion oedd yn Ei ddal a’i gwatwarent, gan Ei darawo;
64ac wedi rhoi gorchudd am Dano, gofynent Iddo, gan ddywedyd, Prophwyda: Pwy yw’r hwn a’th darawodd?
65A phethau eraill lawer, dan gablu, a ddywedasant yn Ei erbyn.
66A phan aeth hi yn ddydd, ymgynhullodd henaduriaeth y bobl, yn gystal archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant Ef ymaith at eu Cynghor,
67gan ddywedyd, Os Tydi wyt y Crist, dywaid wrthym. A dywedodd wrthynt, Os wrthych y dywedaf,
68ni chredwch ddim; ac os gofynaf, nid attebwch ddim.
69Ond ar ol hyn bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.
70A dywedasant oll, Tydi, gan hyny, wyt Mab Duw? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi a ddywedwch mai Myfi ydwyf.
71A hwy a ddywedasant, Pa raid sydd genym mwyach wrth dystiolaeth, canys ni ein hunain a glywsom o’i enau Ef?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.