Philippiaid 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Felly, fy mrodyr anwyl, ac mewn hiraeth genyf, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.

2I Euodia yr attolygaf, ac i Suntuche yr attolygaf, fod â’r un synied ganddynt yn yr Arglwydd.

3Ie, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, gymmorth y gwragedd hyn, y rhai a gyd-lafuriasant yn yr Efengyl â mi, ynghyda Chlement hefyd a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.

4Llawenychwch yn yr Arglwydd yn wastadol. Trachefn dywedaf, Llawenychwch.

5Bydded eich uniondeb yn hyspys i bob dyn.

6Yr Arglwydd, agos yw. Am ddim na phryderwch; eithr ymhob peth mewn gweddi ac ymbil ynghyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau yn hyspys ger bron Duw;

7a thangnefedd Dduw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

8Yn ddiweddaf, frodyr, cynnifer bethau ag sydd wir, cynnifer ag sydd ardderchog, cynnifer ag sydd gyfiawn, cynnifer ag sydd bur, cynnifer ag sydd hawddgar, cynnifer ag sydd ganmoladwy; od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch.

9Ac y pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r heddwch fydd gyda chwi.

10Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd yn awr adfywio o honoch synied trosof; am yr hyn y syniasoch, ond amser cyfaddas nid oedd genych.

11Nid mai yn ol diffyg yr wyf yn dywedyd, canys myfi a ddysgais ym mha bethau bynnag yr wyf, fod yn foddlawn.

12Gwn pa sut i’m hiselu, gwn hefyd pa sut i fod ag helaethrwydd genyf; ym mhob dim, ac ym mhob peth, y’m haddysgwyd i fod yn llawn ac i fod yn newynog, ac i fod ag helaethrwydd genyf, ac i fod mewn eisiau.

13Pob peth a fedraf trwy’r Hwn sydd yn fy nerthu.

14Er hyny, da y gwnaethoch gan cydgyfrannogi â’m gorthrymder i;

15a gwybod yr ydych chwi hefyd, Philippiaid, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethum allan o Macedonia, nad oedd un eglwys a gyd-gyfrannogodd â myfi o ran rhoddi a derbyn, oddieithr chwychwi yn unig,

16canys hyd yn oed yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, at fy anghenrhaid y danfonasoch i mi.

17Nid am fy mod yn ceisio’r rhodd, eithr ceisio yr wyf y ffrwyth sy’n amlhau erbyn eich cyfrif.

18Genyf y mae pob peth, ac mewn helaethrwydd: llanwyd fi, wedi derbyn gan Epaphroditus y pethau oddi wrthych, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw.

19Ac fy Nuw a gyflawna eich holl raid chwi, yn ol Ei olud mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.

20Ac i’n Duw a’n Tad byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

21Annerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Eich annerch y mae’r brodyr sydd gyda mi.

22Eich annerch y mae’r holl saint, ac yn enwedig y rhai o dylwyth Cesar.

23Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch yspryd chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help