Psalmau 103 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CII.

1Eiddo Dafydd.

Bendithia Iehofah, O fy enaid,

A’m holl berfedd-rannau, Ei enw sanctaidd Ef!

2Bendithia Iehofah, O fy enaid,

Ac nac anghofia Ei holl gymmwynasau Ef,

3Yr Hwn a faddeuodd dy holl anwireddau,

Yr Hwn a iachâodd dy holl wendidau,

4Yr Hwn a ryddhâodd dy fywyd o’r bedd,

Yr Hwn a’th goronodd â thrugaredd ac â thosturi,

5Yr Hwn sy’n gorddigoni dy oedran â daioni!

—Ymnewyddu, fel yr eryr, y mae dy ieuengctid!

6Gwneuthur cyfiawnder (y mae) Iehofah,

Ac uniondeb i’r holl orthrymmedigion,

7 Hyspysodd Ei ffordd i Moshe,

I feibion Israel Ei weithredoedd!

8Trugarog a graslawn (yw) Iehofah,

Hwyrfrydig i lid, a mawr o drugaredd,

9Nid am byth y senna Efe,

Ac nid yn dragywydd y ceidw Efe (Ei lid);

10 Nid yn ol ein pechodau y gwnaeth Efe â ni,

Ac nid yn ol ein hanwireddau y rhoddodd Efe i ni!

11Eithr cyfuwch ag yw’r nefoedd uwchlaw y ddaear,

Y rhagorodd Ei drugaredd ar y rhai a’i hofnant Ef,

12Canys cyn belled ag (yw)’r dwyrain oddi wrth y gorllewin,

Y pellhâodd Efe oddi wrthym ein camweddau!

13Fel y tosturia tad wrth (ei) blant,

Y tosturia Iehofah wrth y rhai a’i hofnont Ef;

14Canys Efe sy’n gwybod ein lluniad,

Gan adgofio mai llwch nyni!

15Dyn,—fel glaswellt (y mae) ei ddyddiau,

Fel blodeuyn y maes, felly y blodeua efe,

16Canys gwŷnt a â drosto,—ac ni bydd efe,

Ac nid adnebydd ei le ef mwyach!

17Ond rhadlondeb Iehofah (sydd) o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb ar y rhai a’i hofnont Ef,

A’i gyfiawnder i blant plant,

18I’r rhai a gadwont Ei gyfammod Ef,

Ac i’r rhai a gofiont Ei orchymynion Ef i’w gwneuthur!

19Iehofah, yn y nefoedd y sefydlodd Efe Ei orseddfaingc;

A’i frenhiniaeth, ar bob peth y llywodraetha!

20Bendithiwch Iehofah, Ei angylion Ef,

Cedyrn o nerth, yn gwneuthur Ei air,

Gan wrando ar leferydd Ei air!

21Bendithiwch Iehofah, Ei holl luoedd Ef,

Ei weision, yn gwneuthur Ei ewyllys!

22Bendithiwch Iehofah, Ei holl weithredoedd Ef

Yn holl leoedd Ei lywodraeth!

Bendithia, O fy enaid, Iehofah!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help