1I’r blaengeiniad. Eiddo Dafydd. Psalm.
O Iehofah, chwiliaist fi, ac adnabuost (fi);
2Tydi a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad,
Ystyri fy meddwl o bell;
3Fy llwybr a’m gorwedd a wyntylliaist,
Ac â’m holl ffyrdd yr ymgynnefinaist;
4Pryd nad (yw)’r gair ar fy nhafod,
Wele, O Iehofah, gwyddost ef i gyd!
5 Yn ol ac ym mlaen y gwarchaeaist arnaf,
A gosodaist arnaf Dy law!
6Rhy ryfedd (yw)’r wybodaeth i mi,
Uchel yw, ni fedraf ei chyrhaedd!
7I ba le yr awn oddi wrth Dy yspryd,
Ac i ba le y fföwn o’th ŵydd?
8Os esgynaf i’r nefoedd,—yno Dydi!
Os taenaf danaf annwn,—wele Di!
9 Pe dyrchafwn adenydd y wawr,
A thrigo yn eithaf y môr,
10Yno hefyd Dy law a’m harweiniai,
A chymmeryd gafael arnaf a wnai Dy ddeheulaw!
11A (phe) dywedwn, “Yn ddiau y tywyllwch a’m cuddia,
A’r nos (fydd) y goleuni o’m hamgylch,”
12Y tywyllwch hefyd ni fyddai dywyll i Ti,
A’r nos,—fel y dydd y goleuai,
Fel (y mae)’r tywyllwch, felly (y mae)’r goleuni!
13Canys Tydi a greaist fy arennau,
A’m gwëaist ynghrôth fy mam:
14Clodforaf Di o herwydd yn aruthrol ryfedd y ’m gwnaed!
Rhyfeddol (yw) Dy weithredoedd,
A’m henaid a wyr (hynny) yn odiaeth!
15Ni chuddiwyd fy esgyrn oddi Wrthyt,
Pan y’m gwnaethpwyd yn y dirgel,
Y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear!
16Fy annelwig ddefnydd Dy lygaid a welsant:
Ac yn Dy lyfr yr ysgrifenwyd hwynt oll,
(Sef) y dyddiau (a’r a) luniwyd,
Pan nad (oedd) yr un o honynt!
17Ac i mi mor anhawdd (eu deall) yw Dy feddyliau, O Dduw,
Mawr fawr yw eu swm hwynt!
18 cynfyd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.