1Pa ham, O Iehofah, y sefi o bell,
Yr ymguddi yn amser cyfyngder?
2Ym malchder y drygionus yr ymlysg y cystuddiol,
Delir hwynt yn y bwriadau a ddychymmygodd (y rhai yna);
3Canys cenmyl y drygionus chwant ei enaid,
A’r awyddgar a gân yn iach i, (ac) a ddirmyg Iehofah,
4Y drygionus yn ol codiad ei drwyn,—“Ni chwilia Efe allan”—
“Nid oes ’r un Duw”— (yw) ei holl feddyliau ef;
5 Sefydlog yw ei ffyrdd ef bob amser,
Rhy uchel (yw) Dy farn Di i’w olwg ef;
6Ei holl elynion,—efe a chwyth arnynt,
(Ac) a ddywaid yn ei galon “Ni ’m siglir i
O genhedlaeth i genhedlaeth, yr hwn (wyf) heb ddrygfyd;”
7O felldithio y mae ei enau yn llawn, ac o ddichell a chystudd,
Tan ei dafod trychineb ac anffawd (sydd);
8Eistedda ynghynllwynfa ’r pentrefydd,
Mewn cilfachau y lladd efe ’r diniweid,
Ei lygaid, am y truan yr ymguddiant;
9Cynllwyna mewn cilfach, fel llew yn ei ffau,
Cynllwyna i ymaflyd yn yr anghenog,
Ymeifl yn yr anghenog gan ei dynnu i’w rwyd;
10 Ymgrymma, ac ymostwng,
A syrthio yn ei grafangau y mae ’r trueiniaid;
11Dywaid yn ei galon “Anghofiodd Duw (hyn),
Cuddiodd Ei wyneb fel na wel (hyn) byth.”
12Cyfod, Iehofah; O Dduw, dyrcha Dy law,
Nac anghofia ’r trueiniaid!
13Pa ham y dirmyga ’r drygionus Dduw,
Y dywaid efe yn ei galon nad wyt yn chwilio allan?
14Gweled yr wyt, canys Tydi ar drychineb a thristwch a dremi,
Er mwyn eu dodi ar Dy law;
Arnat Ti y gedy ’r truan (ei achos),
I’r amddifad Tydi wyt gynnorthwywr:
15Chwilfriwia fraich y drygionus;
A’r annuwiol,—ceisi ei ddrygioni ef ond heb ei gael.
16Iehofah (sydd) frenhin yn dragywydd a byth,
Difair y cenhedloedd allan o’i dir Ef.
17Dyhewyd y trueiniaid a glywaist, O Iehofah,
Sefydlaist eu calon hwynt, blaenllymaist Dy glust,
18I farnu ’r amddifad a’r gorthrymmedig,
Fel na chwanego adyn, mab y ddaear, i beri dychryn mwyach!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.