S. Marc 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac aeth i mewn drachefn i’r sunagog: ac yr oedd yno ddyn a chanddo ei law wedi gwywo.

2A gwyliasant Ef ai ar y Sabbath yr iachaai ef, fel y cyhuddent Ef.

3A dywedodd Efe wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol.

4A dywedodd wrthynt, Ai cyfreithlawn yw ar y Sabbath wneuthur da, neu ynte wneuthur drwg? cadw einioes neu ladd?

5A hwy a dawsant. Ac wedi edrych o amgylch arnynt gyda digter, gan ei boeni am galedrwydd eu calon, dywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law; ac estynodd efe hi allan, ac adferwyd ei law ef.

6Ac wedi myned allan o’r Pharisheaid, yn uniawn ynghyda’r Herodianiaid cynghor a gymmerasant yn Ei erbyn Ef, pa fodd y difethent Ef.

7A’r Iesu ynghyda’i ddisgyblion a giliodd at y môr; a thyrfa fawr o Galilea a’i canlynodd Ef:

8ac o Iwdea, ac o Ierwshalem, ac o Idwmea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac o amgylch Tyrus a Tsidon, tyrfa fawr, gan glywed cymmaint o bethau yr oedd Efe yn eu gwneuthur, a ddaeth Atto:

9a dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion am fod i gwch bach barhau yn agos oblegid y dyrfa, fel na wasgent Ef;

10canys llawer a iachasai Efe, fel y syrthiai Arno, er mwyn cyffwrdd ag Ef, gynnifer ag oedd a phlaau arnynt.

11A’r ysprydion aflan, pan Ef a welent, a syrthient i lawr ger Ei fron ac a waeddent,

12gan ddywedyd, Tydi wyt Fab Duw: a llawer y dwrdiodd Efe hwynt na wnaent Ef yn amlwg.

13Ac esgynodd i’r mynydd; a galwodd Atto y rhai a ewyllysiodd Efe;

14a daethant Atto: ac appwyntiodd ddeuddeg i fod gydag Ef, ac fel y danfonai hwynt i bregethu,

15ac i fod a chanddynt awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid;

16a rhoddes ar Shimon yr enw Petr; ac Iago mab Zebedëus,

17ac Ioan brawd Iago, rhoddes hefyd arnynt hwy yr enw Boanerges,

18yr hyn yw Meibion y Daran; ac Andreas, a Philip, a Bartholemëus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alphëus,

19a Thaddëus, a Shimon y Cananead, ac Iwdas Ishcariot, yr hwn hefyd a’i traddododd Ef.

20A daethant i dŷ; a thrachefn y daeth y dyrfa ynghyd fel na allent hwy hyd yn oed fwytta bara.

21Ac wedi clywed o’i berthynasau, aethant allan i’w ddal Ef, canys dywedasant, Allan o’i bwyll y mae.

22A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i wared o Ierwshalem, a ddywedasant, Beelzebub sydd Ganddo, a thrwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid.

23Ac wedi eu galw hwynt Atto, mewn damhegion y dywedodd wrthynt, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24Ac os teyrnas yn ei herbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r deyrnas honno.

25Ac, os tŷ yn ei erbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r tŷ hwnw.

26Ac os Satan a gododd yn ei erbyn ei hun ac ymrannu o hono, ni all sefyll, ond diwedd sydd iddo.

27Eithr ni fedr neb, wedi myned i mewn i dŷ’r cadarn, yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ei dŷ ef a yspeilia efe.

28Yn wir y dywedaf wrthych, Pob peth a faddeuir i feibion dynion, y pechodau ac y cableddau cynnifer ag a gablont;

29ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd,

30eithr dyledwr yw i bechod tragywyddol; canys dywedasant, “Yspryd aflan sydd Ganddo.”

31A daeth Ei fam ac Ei frodyr, a chan sefyll tu allan, danfonasant Atto, gan Ei alw.

32Ac eisteddai tyrfa o’i amgylch Ef, a dywedasant Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr Di tu allan a’th geisiant Di.

33A chan atteb iddynt,

34dywedodd, Pwy yw Fy mam I ac Fy mrodyr? Ac wedi edrych o amgylch ar y rhai oedd yn eistedd o’i gwmpas Ef,

35dywedodd, Wele Fy mam I a’m brodyr; canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnw, brawd i Mi, a chwaer, a mam yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help