1A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd.
2Ac ynghyda’r wawr, daeth drachefn i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth Atto; ac wedi eistedd o Hono, dysgodd hwynt.
3A daeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid â gwraig a ddaliesid mewn godineb:
4ac wedi ei gosod hi yn y canol, dywedasant wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.
5Ac yn y Gyfraith Mosheh a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw wragedd. Tydi, gan hyny, pa beth a ddywedi yn ei chylch?
6A hyn a ddywedasant gan Ei demtio, fel y byddai ganddynt yr hyn i’w gyhuddo Ef o hono. A’r Iesu, wedi ymgrymmu tua’r llawr, a ’sgrifenodd â’i fys ar y ddaear.
7Ac wrth barhau o honynt yn gofyn Iddo, ymsythodd a dywedodd wrthynt, Y dibechod o honoch, bydded y cyntaf i daflu carreg atti.
8A thrachefn wedi ymgrymmu tua’r llawr, â’i fys yr ysgrifenodd ar y ddaear.
9A hwy wedi clywed hyn, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn y canol.
10Ac wedi ymsythu, yr Iesu a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y maent? Oni fu i neb dy gondemnio di?
11A hi a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu, Nid wyf Finnau chwaith yn dy gondemnio di. Dos. O hyn allan na phecha mwyach.]
12Trachefn, gan hyny, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni’r byd: yr hwn sydd yn Fy nghanlyn, ni rodia ddim yn y tywyllwch, eithr bydd a chanddo oleuni’r bywyd.
13Gan hyny, Wrtho y dywedodd y Pharisheaid, Tydi, am Danat Dy hun y tystiolaethi; Dy dystiolaeth nid yw wir.
14Attebodd yr Iesu a dywedodd wrthynt, Er mai Myfi a dystiolaethaf am Danaf Fy hun, gwir yw Fy nhystiolaeth, canys gwn o ba le y daethum, ac i ba le y ciliaf: ond chwychwi ni wyddoch o ba le y daethum, nac i ba le y ciliaf.
15Chwychwi, yn ol y cnawd y bernwch; Myfi nid wyf yn barnu neb.
16Ac os barnu a wnaf Fi, Fy marn sydd wir; canys nid yn unig yr wyf, eithr Myfi, ac yr Hwn a’m danfonodd, sef y Tad.
17Ac yn eich Cyfraith chwi yr ysgrifenwyd, “Tystiolaeth dau ddyn, gwir yw.”
18Myfi yw’r Hwn sy’n tystiolaethu am Danaf Fy hun, a thystiolaethu am Danaf y mae’r Hwn a’m danfonodd, sef y Tad.
19Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa le y mae Dy Dad? Attebodd yr Iesu, Nid adwaenoch na Myfi, na’m Tad: ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech.
20Yr ymadroddion hyn a lefarodd Efe yn y drysorfa, pan yn dysgu yn y deml; ac ni ddaliodd neb Ef, am na ddaethai Ei awr etto.
21Gan hyny y dywedodd drachefn wrthynt, Myfi wyf yn cilio, a cheisiwch Fi, ac yn eich pechod y byddwch feirw: lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod.
22Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, A ladd Efe Ei hun, gan Ei fod yn dweud, “Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod?”
23A dywedodd wrthynt, Chwychwi, oddi isod yr ydych; Myfi, oddi uchod yr wyf: Chwychwi, o’r byd hwn yr ydych; Myfi, nid wyf o’r byd hwn.
24Gan hyny y dywedais wrthych, “Byddwch feirw yn eich pechodau;” canys oni chredwch mai Myfi yw Efe, byddwch feirw yn eich pechodau.
25Gan hyny y dywedasant Wrtho, Tydi, pwy wyt? Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Yr hyn a ddywedais wrthych hyd yn oed o’r dechreuad.
26Llawer o bethau sydd Genyf i’w llefaru ac i’w barnu am danoch; eithr yr Hwn a’m danfonodd, gwir yw; ac Myfi, y pethau a glywais Ganddo, y rhai hyn yr wyf yn eu llefaru i’r byd.
27Ni wyddent mai am y Tad y dywedai wrthynt.
28Gan hyny y dywedodd yr Iesu, Pan ddyrchafoch Fab y Dyn, yna y gwybyddwch mai Myfi yw Efe, ac o Honof Fy hun nad wyf yn gwneuthur dim; eithr fel y dysgodd Fy Nhad I, y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru.
29Ac yr Hwn a’m danfonodd, ynghyda Mi y mae; ni adawodd Fi yn unig, canys y pethau sydd foddlawn Ganddo, yr wyf Fi yn eu gwneuthur bob amser.
30Ac Efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant Ynddo.
31Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrth yr Iwddewon a gredasant Ynddo, Os chwi a arhoswch yn Fy ngair I, Fy nisgyblion mewn gwirionedd ydych;
32a chewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha.
33Attebasant Iddo, Had Abraham ydym, ac i neb ni fuom gaeth erioed. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, Rhyddion fyddwch?
34Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Pob un y sy’n gwneuthur pechod, caethwas yw i bechod.
35Y caethwas ni erys yn y tŷ am byth; y Mab a erys am byth.
36Gan hyny, os y Mab a’ch rhyddha chwi, gwir-ryddion fyddwch.
37Gwn mai “had Abraham” ydych; eithr ceisio Fy lladd I yr ydych, gan nad yw Fy ngair a lle iddo ynoch.
38Y pethau a welais I gyda’r Tad, yr wyf yn eu llefaru; a chwithau hefyd, y pethau a glywsoch gan eich tad, yr ydych yn eu gwneud.
39Attebasant a dywedasant Wrtho, Ein tad, Abraham yw. Wrthynt y dywedodd yr Iesu,
40Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. Ond yn awr ceisio Fy lladd I yr ydych, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn a glywais gan Dduw.
41Hyn ni wnaeth Abraham. Chwi ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tad.
42Dywedasant Wrtho, Nyni, nid trwy butteindra y’n cenhedlwyd. Un Tad sydd genym, sef Duw. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe Duw fyddai eich Tad, carech Fi, canys Myfi, oddiwrth Dduw y daethum allan, ac yr wyf wedi dyfod,
43canys nid o Honof Fy hun y deuais, eithr Efe a’m danfonodd I. Paham na ddeallwch Fy ymadrodd? Am na ellwch wrando Fy ngair I.
44Chwychwi, o’ch tad, y diafol, yr ydych; a thrachwantau eich tad a ewyllysiwch eu gwneuthur. Efe, lleiddiad dyn yr oedd o’r dechreuad, ac yn y gwirionedd ni safodd, gan nad oes gwirionedd ynddo. Pan lefaro gelwydd, o’r eiddo ei hun y llefara, canys celwyddwr yw, ac yn dad iddo.
45Ond Myfi, gan mai y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydych yn Fy nghredu.
46Pwy o honoch a’m hargyhoedda am bechod? Os y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, paham nad ydych chwi yn Fy nghredu?
47Yr hwn sydd o Dduw, ymadroddion Duw a wrendy efe; o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad o Dduw yr ydych.
48Attebodd yr Iwddewon a dywedasant Wrtho, Onid da y dywedwn mai Shamariad wyt Ti, a chythraul sydd Genyt.
49Attebodd yr Iesu, Myfi nid wyf a chythraul Genyf, eithr anrhydeddu Fy Nhad yr wyf, a chwychwi ydych yn Fy nianrhydeddu I.
50Ond Myfi nid wyf yn ceisio Fy ngogoniant; y mae a’i cais, ac a farn.
51Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Os Fy ngair I a geidw dyn, marwolaeth ni wel efe yn dragywydd.
52Dywedyd Wrtho a wnaeth yr Iwddewon, Yn awr y gwyddom fod cythraul Genyt. Abraham a fu farw, ac y prophwydi; a Thydi a ddywedi, “Os Fy ngair a geidw dyn, nid archwaetha farwolaeth yn dragywydd.”
53A wyt Ti yn fwy na’n tad Abraham, yr hwn a fu farw? A’r prophwydi a fuant feirw? Pwy yr wyt yn Dy wneuthur Dy hun?
54Attebodd yr Iesu, Os wyf Fi yn gogoneddu Fy hun, Fy ngogoniant nid yw ddim; Fy Nhad yw’r Hwn sydd yn Fy ngogoneddu, am yr Hwn chwi a ddywedwch mai eich Duw yw, ac nid adwaenoch Ef.
55Ond Myfi a’i hadwaen Ef, ac os dywedaf nad adwaen Ef, byddaf debyg i chwi, yn gelwyddwr: eithr Ei adnabod yr wyf, a’i air Ef yr wyf yn ei gadw.
56Abraham eich tad a orfoleddodd am weled Fy nydd I: a gwelodd ef, a llawenychodd.
57Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon Wrtho, Deng mlwydd a deugain nid oes etto Genyt, ac Abraham a welaist!
58Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Cyn i Abraham ei eni, Myfi wyf.
59Gan hyny y codasant gerrig fel y’u taflent Atto. A’r Iesu a ymguddiodd, a ac aeth allan o’r deml.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.