1A chlywais lais mawr o’r deml yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan y saith phiol llid Duw i’r ddaear.
2Ac aeth y cyntaf ymaith a thywalltodd allan ei phiol i’r ddaear: ac aeth hi yn gornwyd drwg a blin ar y dynion oedd a chanddynt nod y bwystfil, a’r rhai a addolent ei ddelw.
3A’r ail a dywalltodd allan ei phiol i’r môr; ac yr aeth hi yn waed fel yr eiddo dyn marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y pethau yn y môr.
4A’r trydydd a dywalltodd allan ei phiol i’r afonydd a’r ffynhonnau dyfroedd; ac yr aeth hi yn waed.
5A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd,
Cyfiawn wyt, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, Y Sanctaidd, gan mai’r pethau hyn a fernaist;
6Canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan,
A gwaed a roddaist iddynt hwy i’w yfed. Haeddu y maent.
7A chlywais yr allor yn dywedyd,
Ië, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw Dy farnau.
8A’r pedwerydd a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul;
9a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân: a phoethwyd dynion â phoethder mawr; a chablasant enw Duw, yr Hwn sydd a Chanddo y gallu ar y plaau hyn; ac nid edifarhasant i roi Iddo ogoniant.
10A’r pummed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd-faingc y bwystfil, ac aeth ei deyrnas yn dywylledig: a chnoisant eu tafodau gan y boen,
11a chablasant Dduw’r nef o herwydd eu poenau ac o herwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddiwrth eu gweithredoedd.
12A’r chweched a dywalltodd allan ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr fel y parottoid ffordd y brenhinoedd sydd o godiad haul.
13A gwelais yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau y gau-brophwyd, dri yspryd aflan fel llyffaint,
14canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, y rhai sy’n myned allan ar frenhinoedd y ddaear oll, i’w casglu hwy i ryfel dydd mawr Duw, Yr Hollalluog.
15(Wele, dyfod yr wyf fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n gwylied, ac yn cadw ei ddillad, fel nad yn noeth y rhodio, a gweled o honynt ei anharddwch.)
16A chasglodd hwynt i’r lle a elwir yn Hebraeg, Har-Magedon.
17A’r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llais mawr allan o’r deml oddiwrth yr orsedd-faingc, yn dywedyd, Darfu:
18a bu mellt a lleisiau a tharannau; a daear-gryn mawr a fu, y fath na fu er’s pan fu dynion ar y ddaear, gymmaint daear-gryn, mor fawr:
19ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babulon fawr a gofiwyd ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwin digofaint Ei lid:
20a phob ynys a ffodd, a mynyddoedd ni chafwyd;
21a chenllysg mawr, oddeutu pwys talent yr un, a ddisgynasant o’r nef ar ddynion; a chablodd dynion Dduw am bla’r cenllysg, canys mawr oedd eu pla, yn dra-mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.