1Psalm i Asaph.
O Dduw, daeth y cenhedloedd i’th etifeddiaeth,
Halogasant deml Dy sancteiddrwydd,
Gosodasant Ierwshalem yn garneddau,
2Rhoddasant gelanedd Dy weision
Yn fwyd i adar y nefoedd,
—Cnawd Dy hoffwyr i fwystfilod y ddaear,—
3Tywalltasant eu gwaed hwynt fel dwfr
O amgylch Ierwshalem, ac heb neb i’(w) claddu:
4Aethom yn warth i’n cymmydogion,
Yn wawd, ac yn watwar i’r rhai sydd o’n hamgylch!
5Hyd pa hyd, O Iehofah? A ddigi Di am byth?
Ai llosgi, fel tân, a wna Dy eiddigedd?
6Tywallt Dy angerdd ar y cenhedloedd, y rhai nid adnabuant Di,
Ac ar y teyrnasoedd, y rhai ar Dy enw Di ni alwasant,
7Canys ysasant Iacob,
A’i breswylfa a anghyfanneddasant!
8Na chofia, i ni, yr anwireddau gynt!
Brysia, rhagflaened Dy dosturiaethau ni,
Canys anghenus iawn ydym!
9Cynnorthwya ni, O Dduw ein iachawdwriaeth,
O achos gogoniant Dy enw,
A gwared ni, a maddeu ein pechodau
Er mwyn Dy enw!
10Pa ham y dywedai’r cenhedloedd, “Pa le (y mae) eu Duw hwynt?”
Hyspyser ymhlith y cenhedloedd, yn ein golwg ni,
Ddial gwaed Dy weision (yr hwn) a dywahtwyd!
11Deued ger Dy fron uchenaid y caeth!
Yn ol cadernid Dy fraich cadw yn fyw blant angau!
12A dychwel i’n cymmydogion ar y seithfed, i’w mynwes,
Eu gwarth â’r hwn y gwarthasant Di, O Arglwydd!
13A nyni, Dy bobl a phraidd Dy borfa,
Clodforwn Di yn dragywydd,
Yn oes oesoedd yr adroddwn Dy foliant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.