1Ond yn awr gwrando, Iacob Fy ngwas,
Ac Israel 『2yr hwn』 a 1ddewisais;
2Fel hyn y dywed Iehofah, yr Hwn a’th wnaeth,
A’r Hwn a ’th luniodd o’r grôth, Efe a’th gynnorthwya;
Nac ofna, Fy ngwas Iacob,
A thi Ieshwrun, 『2yr hwn』 a 1ddewisais;
3Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig,
A ffrydiau ar y sychdir;
Tywalltaf Fy yspryd ar dy hâd,
A’m bendith ar dy hiliogaeth:
4A hwy a dyfant, fel ym mysg dyfroedd (y tyf) glaswellt,
Fel helyg wrth ymyl ffrydiau dyfroedd.
5Hwn a ddywed Eiddo Iehofah (ydwyf) fi,
A’r llall a eilw (ei hun) ar enw Iacob,
Ac arall a ysgrifena (ar) ei law, “Eiddo Iehofah,”
Ac ar enw Israel yr ymgyfenwa.
6Fel hyn y dywed Iehofah, Brenhin Israel
A’i Adbrynwr, Iehofah y lluoedd,
Myfi y Cyntaf, a Myfi y Diweddaf,
Ac heblaw Fi nid (oes) Duw.
7Pwy (sydd) fel Myfi? adrodded efe,
A myneged y peth, a threfned ef i Mi,
Er pan osodais bobl hŷd byth;
A’r pethau sydd ar ddyfod, ar pethau a ddaw, myneged ef hwynt i chwi.
8Nac ofnwch, ac nac arswydwch;
Onid er hynny o amser y traethais it’,
Ac y mynegais? A chwi (yw) Fy nhystion.
A oes Duw ond Myfi?
Ië, nid (oes) graig (arall): nid adwaen I (un)
9Y rhai a luniant ddelw gerfiedig (ydynt) i gỳd oferedd,
A’u pethau dymunawl ni wnant lesâd;
Eu tystion yw y rhai hyn
Na welant, ac na wyddant,
10Fel y cywilyddier (pob un) am lunio o hono dduw,
Neu fwrw delw gerfiedig, yr hon ni wna lesâd.
11Wele, ei holl gyfranogwŷr a gywilyddir,
A’r seiri yn fwy na neb;
Ymgynnullant oll, safant i fynu,
Ofnant, cywilyddiant ynghŷd.
12Y gof 『2(sy) ’n torri』 『1darn o haiarn,』
Efe a weithia yn y glo, ac â morthwylion y’i llunia,
Ac efe a’i gweithia â 2nerth 『1ei fraich,』
Ië fe aiff yn newynog ac heb nerth,
Nid ŷf ddwfr, ac y mae yn diffygio.
13Y saer pren a estyn linyn,
Efe a’i llunia â phwyntyl,
Efe a’i gweithia â pheiriannau cerfio,
Wrth gwmpas efe a’i llunia,
Ac a’i gwna ar ol delw dyn,
Ar ol prydferthwch gwr, i aros (mewn) tŷ.
14Efe a dyr iddo gedrwŷdd,
Efe a gymmer brinwydden a derwen,
Ac a gadarnhâ ei hun â phrennau ’r coed;
Efe a blanna onnen a’r gwlaw a’i maetha,
15A hi a fydd i ddyn yn ymborth tân;
Ac efe a gymmer o’r rhai hyn, ac a ymdwymna,
Ië, efe a gynneu dân ac a boba fara,
Ië, gwna dduw ac addola ef,
Gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac ymgrymma iddo.
16Rhan o honaw a lysg efe mewn tân:
Ar ran o honaw y cyweiria efe gig ac y bwytty,
Y rhostia rost fel y diwaller ef;
Ië, yr ymdwymna, ac y dywed,
Aha! ymdwymnais, gwelais dân.
17A’r gweddill o honaw yn dduw a wna efe, yn ddelw gerfiedig iddo;
Efe a ymgrymma iddo, ac a’i haddola,
Ac a weddia arno, ac a ddywed,
Achub fi, canys fy nuw Tydi (ydwyt);
18Ni wyddant ac ni ddeallant,
Canys edlynwyd 『2eu llygaid』 『1fel na allont weled;』
『2A’u calonnau』 『1fel na allont ddeall:』
19Ac ni ddychwel (dyn) i’w bwyll,
Ac nid oes wybodaeth, na deall i ddywedyd,
Rhan o hono a losgais mewn tân;
Ië, a phobais ar ei farwor fara;
Rhostiais gig a bwyttêais;
A’r gweddill o hono, ai yn ffieiddbeth y gwnaf fi (ef)?
Ai i foncyff o bren yr ymgrymmaf?
20Ymborth ar ludw y mae efe, calon dwylledig a’i gŵyr-drodd ef,
Fel nad achubo ei enaid, ac na ddywedo
Onid celwydd (sydd) yn fy neheulaw?
21Cofia hyn, Iacob,
Ac Israel, canys Fy ngwas tydi (ydwyt),
Lluniais di, gwas i Mi tydi (ydwyt);
Israel, ni ’th anghofir gennyf.
22Sychais ymaith 『2dy gamweddau』 『1fel cwmmwl.』
A’th 2bechodau 『1fel niwl.』
Dychwel attaf, canys adbrynais di.
23Llawen-genwch, nefoedd, canys gwnaeth Iehofah hyn,
Gwaeddwch, waelodion y ddaear,
Torrwch allan, fynyddoedd, â chân,
Y coed a phob pren ynddo,
Canys adbrynodd Iehofah Iacob,
Ac yn Israel yr ymogonedda Efe.
24Fel hyn y dywed Iehofah, dy Adbrynwr,
A’r Hwn a’th luniodd o’r grôth,
Myfi Iehofah, gwneuthurwr pob peth,
Gan estyn y nefoedd Fy hunan,
Gan ledu y ddaear o honof Fy hun.
25(Yr Hwn) gan ddiddymmu arwyddion y twyllwŷr
A 2bensyfrdana 『1hefyd y dewiniaid;』
Gan droi’r doethion yn eu hol
A 2ynfyda 『1hefyd eu gwybodaeth;』
26Gan sefydlu gair Ei was
A 3gwblhâ 『1hefyd gynghor』 『2Ei genhadon;』
Yr Hwn (sy)’n dywedyd wrth Ierwshalem Ti a breswylir,
Ac wrth ddinasoedd Iwdah, Chwi a adeiledir,
A’i hanghyfanneddfëydd a adferaf Fi;
27Yr Hwn (sy)’n dywedyd wrth eigion y môr, Bydd sych,
A’th afonydd Mi a sychaf;
28Yr Hwn (sy)’n dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail (ydwyt,)
A’m holl ewyllys a gyflawna efe;
Yr Hwn (sy)’n dywedyd wrth Ierwshalem Ti a adeiledir,
Ac wrth y deml, Ti a sylfeinir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.