1Molwch Iah!
Molwch, O weision Iehofah,
Molwch enw Iehofah!
2Bydded enw Iehofah yn fendigedig,
O’r pryd hyn, ac yn dragywydd!
3O godiad haul hyd ei fachludiad
Moler enw Iehofah!
4Uchel goruwch yr holl genhedloedd (yw) Iehofah,
Goruwch y nefoedd (yw) Ei ogoniant!
5Pwy fel Iehofah, ein Duw ni,
Yr Hwn sy’n uchel yn orseddawg,
6Yr Hwn sy’n gostwng (Ei lygaid) i edrych
Ar y nefoedd ac ar y ddaear;
7Yr Hwn sy’n codi o’r llwch yr egwan,
Ac o’r dom y dyrchafa’r anghenus,
8I beri iddo eistedd ynghyda thywysogion,
—Ynghyda thywysogion Ei bobl;
9Yr Hwn sy’n peri i’r ammhlantadwy yn ei thŷ drigo
Yn fam plant lawen?
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.