1I’r blaengeiniad. Eiddo Dafydd.
Yn Iehofah yr ymddiriedaf!
Pa fodd y dywedwch wrth fy enaid,—
“Ffôwch i’ch mynydd, fel aderyn,
2Canys wele, y drygionus a annelant fwa,
Gosodasant eu saethau ar y llinyn,
I saethu mewn tywyllwch y rhai uniawn o galon;
3Canys y colofnau a ddymchwelwyd,
(A)’r cyfiawn—pa beth a wna efe?”
4Iehofah, yn llys Ei sancteiddrwydd (y mae),
Iehofah, yn y nefoedd (y mae) Ei orsedd,
Ei lygaid Ef sy’n gweled,
Ei amrantau Ef sy’n profi meibion dynion;
5Iehofah, y cyfiawn a brawf Efe,
Ond y drwg a ’r carwr trais Ei enaid Ef a gasâ;
6Gwlawia Efe ar y drygionus rai faglau,
Tân a brwmstan a phoethwỳnt (yw) rhan eu cwppan:
7Canys cyfiawn Iehofah, (a) chyfiawnder a gâr Efe,
A ’r uniawn rai a gânt weled Ei wyneb Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.