1 Iehofah, fy Nuw (ydwyt) Ti,
Dyrhafaf Di, moliannaf Dy enw,
Canys gwnaethost ryfeddodau,
Cynghorion er ys talm, ffyddlondeb ffyddlawn.
2Canys gosodaist y ddinas yn bentwr,
Y dref gaerog yn garnedd,
Uchelfa ’r beilchion fel na bo’n ddinas,
Byth nid adeiledir hi.
3Am hynny y ’th ogonedda pobl nerthol,
Dinas y cenhedloedd ofnadwy a ’th arswyda.
4Canys buost nerth i’r tlawd,
Nerth i’r anghenog yn ei gyfyngder,
Yn nodded rhag tymmestl, yn gysgod rhag gwres,
Pan oedd yspryd y rhai ofnadwy fel tymmestl (yn erbyn) mur.
5Fel gwres mewn sychdir, twrf y beilchion a iseli;
Fel gwres yng nghysgod cwmmwl, cân orfoleddus y rhai ofnadwy a ddarostyngir,
6Ac fe wna Iehofah y lluoedd
I’r holl bobloedd yn y mynydd hwn
Wledd o ddanteithion, gwledd o hên win,
Danteithion meraidd, hên win puredig.
7Ac Efe a ddifa yn y mynydd hwn
Y gorchudd sydd yn gorchuddio ’r holl bobloedd,
A’r llen a’r oedd yn llenu ’r holl genhedloedd.
8Efe a ddifa angau am byth,
A sych yr Arglwydd Iehofah y deigr oddi ar bob wyneb,
A gwarthrudd Ei bobl a dỳn Efe ymaith oddi ar yr holl ddaear;
Canys Iehofah a’ i llefarodd.
9A dywedant yn y dydd hwnnw,
Wele ein Duw ni, Hwn!
Gobeithiasom ynddo, ac Efe a fu yn Iachawdwr i ni;
Hwn! Iehofah! Gobeithiasom ynddo;
Gorfoleddwn, a llawenychwn yn Ei iachawdwriaeth Ef.
10Canys fe orphwys llaw Iehofah yn y mynydd hwn;
A dyrnir Moab dano
Fel y dyrnir gwellt dan olwyn menn.
11 Ac efe a estyn ei ddwylaw ynghanol hyn
Fel yr estyn un sy’n suddo (ei ddwylaw) i nofio,
Ond Efe a ostwng ei falchder â chrafangiad disymmwth Ei law.
12Ac ymddiffynfa dy uchel gaerau Efe a ogwydda,
Efe a ostwng, Efe a ddwg i lawr hŷd y llwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.