1 Cyfod, goleuer di, (Ierwshalem), canys daeth dy oleuni,
A gogoniant Iehofah arnat ti a gododd.
2Canys wele, tywyllwch a orchuddia ’r ddaear,
A magddu y bobloedd,
Ond arnat ti y cwyd Iehofah,
A’i ogoniant arnat ti a welir.
3Ac fe rodia ’r cenhedloedd yn dy oleuni,
A brenhinoedd yn nisglaerded dy godiad.
4Cyfod dy 2lygaid 『1oddi amgylch』 a gwêl;
Hwynt oll a gasglwyd, maent yn dyfod attat;
Dy feibion o hirbell a ddeuant,
A ’th ferched ar dy ystlys a fegir.
5Yna yr ofni ac y llawenychi,
Ac arswydo ac helaethu a wna dy galon,
Pan dröer attat gyfoeth y môr,
A golud y cenhedloedd fo’n dyfod attat.
6Llifeiriant o gamelod a ’th orchuddia,
Camelod ieuaingc Midian ac Ephah:
Hwynt oll o Saba a ddeuant,
Aur a thus a ddygant,
A moliant Iehofah a efengylant.
7Holl ddefaid Cedar a gesglir attat,
Hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant,
Ddeuant i fynu yn ffoddhâol at Fy allor,
A thŷ Fy mhrydferthwch a brydferthaf Fi.
8Pwy (yw) ’r rhai hyn, fel cwmmwl, sydd yn ehedeg,
Ac fel colommenod i’w cybbau?
9Yn ddïau wrthyf Fi y gwledydd pell a ddisgwyliant,
A llongau Tarshish yn gyntaf,
I ddwyn dy feibion o bell,
Eu harian a’u haur gyda hwynt,
Er mwyn enw Iehofah dy Dduw,
Ac er mwyn Sanct Israel, canys Efe a ’th brydferthodd.
10Ac fe adeilada meibion y dieithr dy furiau,
A’u brenhinoedd a ’th wasanaethant;
Canys yn Fy nig y ’th darewais,
Ac yn Fy moddlonrwydd y tosturiaf wrthyt.
11Ac agored fydd dy byrth beunydd,
Dydd a nos ni cheuir hwynt,
I ddwyn attat lu ’r cenhedloedd
A’u brenhinoedd yn arweiniedig.
12Canys y genedl a’r deyrnas,
A’r na ’th wasanaethant, a ddifethir;
Ië y cenhedloedd (hynny) â dinystr a ddinystrir.
13Gogoniant Lebanon attat a ddaw,
Y ffynnidwydden, y ffawydden, a’r ysbeinwydden ynghŷd,
I brydferthu lle Fy nghyssegr;
A lle Fy nhraed a ogoneddaf.
14A daw attat, yn ostyngedig, feibion dy gystuddwŷr,
Ac fe ymostwng, wrth wadnau dy draed, y rhai a ’th ddirmygasant,
A galwant di “Dinas Iehofah,
Tsïon Sanct Israel.”
15Yn lle bod o honot yn adawedig,
Yn gasedig, ac heb gynniweirydd (trwot),
Gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragywyddol,
Yn llawenydd yn oes oesoedd.
16A sugni laeth cenhedloedd,
Ië, bronnau brenhinoedd a sugni,
A chei wybod mai Myfi Iehofah (yw) dy Iachawdwr,
A ’th Adbrynwr, Cadarn Israel.
17Yn lle pres y dygaf aur,
Ac yn lle haiarn y dygaf arian,
Ac yn lle coed bres,
Ac yn lle cerrig haiarn,
A gwnaf dy swyddogion yn heddwch,
A ’th drethwŷr yn gyfiawnder.
18Ni chlywir mwy drais yn dy wlad,
(Na) distryw a dinystr yn dy derfynau,
Eithr ti a elwi dy fagwyrydd, “Iachawdwriaeth”
A ’th byrth, “Moliant.”
19Ni bydd yr 2haul 『1i ti』 mwyach yn oleuni liw dydd,
Ac, mewn disglaerdeb, y lleuad ni oleua i ti;
Ond bydd 2
Iehofah 『1i ti』 yn oleuni tragywyddol,A ’th Dduw yn brydferthwch it’?
20Ni fachluda mwyach dy haul,
A ’th leuad ni chilia,
Canys Iehofah a fydd it’ yn oleuni tragywyddol,
Ac fe dderfydd dyddiau dy alar.
21A ’th bobl oll yn gyfiawn,
Yn dragywydd yr etifeddant y tir,
Blaguryn Fy mhlaniad, gwaith Fy nwylaw, fel y’m prydferther.
22Y bychan a fydd yn fil,
A’r gwael yn genedl gref;
Myfi Iehofah yn ei dymmor a brysuraf hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.