Psalmau 65 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXV

1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd. Cân.

2Wrthyt Ti (y mae) distaw ddisgwyliad, a mawl, O Dduw, yn Tsïon,

Ac i Ti y telir yr adduned,

3Yr Hwn wyt yn gwrando gweddi,

Attat Ti y gwna pob cnawd ddyfod:

4Pethau anwir fuont drech na mi,

—Ein camweddau, Ti a’u maddeui.

5Gwyn ei fyd (yr hwn) a ddewisaist ac a nesêaist (Attat),

(Yr hwn) sy’n trigo yn Dy gynteddoedd;

Gorddigoner ni â daioni Dy dŷ,

(Sef) â sancteiddrwydd Dy deml!

6Yn rhyfeddol, â thrugaredd yr attebaist i ni, O Dduw ein iachawdwriaeth,

Oh Obaith holl eithafoedd y ddaear a’r môr pellaf,

7Yr Hwn a sicrhâ’r mynyddoedd trwy Ei nerth,

A wregysir â chadernid;

8Yr Hwn sy ’n gostegu rhuad moroedd, rhuad eu tonnau,

A dadwrdd pobloedd,

9Fel yr ofna preswylwyr yr eithafoedd rhag Dy arwyddion;

—Dyfodiadau’r bore a’r hwyr a lenwi â llawen-gân!

10Ymwelaist a’r ddaear, gorlenwaist hi,

Mawr-gyfoethogaist hi â phrilliau Duw sy’n llawn dwfr,

Darperaist ŷd iddynt,

Canys felly y darperaist hi,

11Gan ddïodi ei chwysau, gan ostwng ei rhychau,

A chafodydd y datglymmaist hi,

Ei hegin a fendithiaist;

12Coronaist y flwyddyn â’th ddaioni,

A’th lwybrau a ddiferant frasder,

13Diferant ar borfëydd yr anialwch,

Ac â gorfoledd y bryniau a ymwregysant;

Gwisgir y dolydd â defaid,

14A’r dyffrynoedd a orchuddir âg yd,

—Llawen-floeddio a chanu a wnant hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help