Hebreaid 8 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A’r pennaf peth yn yr hyn a ddywedir yw hyn, Y cyfryw Arch-offeiriad sydd genym, yr Hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfaingc Y Mawredd yn y nefoedd;

2Gweinidog y gyssegrfa a’r gwir dabernacl, yr Hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.

3Canys pob archoffeiriad, i offrymmu rhoddion ac aberthau y’u gosodir; a chan hyny, rhaid oedd bod gan Hwn hefyd ryw beth a offrymmai.

4Pe bai Efe, gan hyny, ar y ddaear, ni fyddai yn offeiriad o gwbl, gan fod y rhai sy’n offrymmu’r rhoddion yn ol y Gyfraith,

5y rhai sy’n gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, fel y rhybuddiwyd Mosheh pan ar fedr gorphen y Tabernacl; canys, “Gwel,” medd Efe, “ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.”

6Ond yn awr, gweinidogaeth mwy rhagorol a gafodd Efe, o gymmaint ag i gyfammod gwell y mae yn Gyfryngwr, yr hwn a ddeddf-osodwyd ar addewidion gwell.

7Canys pe buasai’r cyntaf hwnw yn ddifeius, i arall ni cheisiasid lle.

8Canys yn beio arnynt y dywaid Efe,

“Wele, dyddiau sy’n dyfod, medd Iehofah,

Y gwnaf â thŷ Israel ac â thŷ Iwdah, gyfammod newydd;

9Nid yn ol y cyfammod a wnaethum â’u tadau

Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i’w dwyn o dir yr Aipht;

Canys hwy nid arhosasant yn Fy nghyfammod,

Ac Myfi a’u hesgeulusais, medd Iehofah.

10Canys hwn yw’r cyfammod a ammodaf â thŷ Israel

Ar ol y dyddiau hyny, medd Iehofah;

Gan roddi Fy nghyfreithiau yn eu meddwl,

Ac ar eu calonnau yr ysgrifenaf hwynt;

A byddaf iddynt yn Dduw,

A hwy a fyddant i Mi yn bobl:

11Ac ni ddysgant bob un ei gyd-ddinesydd,

A phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd Iehofah,

Canys pawb a’m hadnabyddant,

O’r lleiaf hyd eu mwyaf;

12Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawderau,

A’u pechodau ni chofiaf mwy.”

13Wrth ddywedyd, “Cyfammod newydd,” gwnaeth y cyntaf yn hen; a’r hwn sy’n myned yn hen ac yn oedrannus, agos i ddiflannu y mae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help