1Cân y graddau.
Cofia, O Iehofah, i Ddafydd
Ei holl flinder,
2Yr hwn a dyngodd i Iehofah,
A addunedodd i rymmus (Dduw) Iacob,
3“—Nid âf i fewn pabell fy nhŷ,
Ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely,
4Ni roddaf gwsg i’m llygaid,
(Nac) i’m hamrantau hûn,
5Hyd oni chaffwyf le i Iehofah,
Preswylfod i rymmus (Dduw) Iacob;”—
6Wele, clywsom am dani yn Ephratah;
Cawsom hi ym maesydd y coed;
7(Dywedasom,) “Dygwn hi i’w breswylfod Ef,
Gwarogaethwn o flaen maingc Ei draed Ef.”
8Cyfod, O Iehofah, i’th orphwysfa,
Tydi ac arch Dy odidowgrwydd!
9Dy offeiriaid a ymwisgont â chyfiawnder,
A’th saint a lawen-ganont!
10Er mwyn Dafydd Dy was,
Na thro yn ol wyneb Dy enneiniog!
11Tyngodd Iehofah i Ddafydd beth sicr,
Ni thrŷ Efe oddi wrtho,
“—O ffrwyth dy gorph y gosodaf ar yr orseddfaingc i ti,
12Os ceidw dy feibion Fy nghyfammod,
A’m cynreithiau y rhai a ddysgaf iddynt;
Hefyd eu meibion hwy, byth bythoedd,
A eisteddant ar yr orseddfaingc i ti.”—
13 Canys dewisodd Iehofah Tsïon,
Chwennychodd hi yn drigfa Iddo Ei hun!
14“Hon (yw) Fy ngorphwysfa byth bythoedd,
Yma y trigaf, canys chwennychais hi;
15Ei lluniaeth gan fendithio a fendithiaf,
Ei thlodion a ddiwallaf â bara,
16A’i hoffeiriaid a wisgaf âg iachawdwriaeth,
A’i saint hi gan lawen-ganu a lawen-ganant:
17Yno y paraf flaguro gorn i Ddafydd,
Y darparaf oleuni i’m henneiniog;
18Ei elynion a wisgaf â chywilydd,
Ond arno ef y disgleiria ei goron!”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.