Iöb 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

IV.

1Yna yr attebodd Eliphaz y Temaniad a dywedodd,

2(Pe) anturiai un air â thi, ai blin fyddai gennyt?

(Etto) attal lleferydd pwy a ddichon?

3Wele, ti a hyfforddaist laweroedd,

A’r dwylaw llesg ti a gryfheaist;

4Y neb a’r oedd yn tramgwyddo, dy leferydd a’i hattegodd,

A’r gliniau gwegiawl ti a nerthaist:

5Ond yn awr daeth arnat tithau, ac y mae ’n flin gennyt,

Cyffyrddodd â thi, a thi a arswydaist:

6Onid (yw) dy ofn (ofn yr Arglwydd) yn hyder i ti,

Yn obaith i ti? — a hefyd perffeithrwydd dy ffyrdd?

7Adgofia, attolwg, pwy yw ’r hwn yn ddïeuog a fethodd,

A pha le y bu i’r rhai uniawn ddiflannu?

8Am yr hyn a welais i, arddwŷr anwiredd

A hauwŷr drygioni a’u medasant,

9Gan anadl Duw y difethwyd hwynt,

A chan chwŷthad Ei ffroenau Ef y distrywiwyd hwynt;

10 Rhuad y llew, a llais y rhuedydd,

A dannedd cenawon y llew a ysgydwyd allan,

11Yr hên lew a drengodd o eisiau ysglyfaeth,

A chenawon y llewes a wasgarwyd.

12Ac attaf y daeth gair yn lladradaidd,

A derbyniodd fy nghlust husting o hono:

13Ym meddyliau gweledigaethau ’r nos,

Pan syrthio trymgwsg ar ddynion,

14Braw a gyfarfu â mi, a dychryn,

A holl nifer fy esgyrn a frawychodd efe:

15GwỳntOni thynnir eu cortynnau i fynu iddynt?

Trengu y maent hwy, ond nid mewn doethineb.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help