Hebreaid 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yr oedd, gan hyny, gan y Cyfammod cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a’i gyssegr bydol;

2canys tabernacl a barottowyd, sef y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a gosodiad y bara ger bron, yr hwn dabernacl a elwir,

3“Y Cyssegr.” Ac yn ol yr ail len, y tabernacl a elwir,

4“Y Cyssegr Sancteiddioliaf,” a chanddo thuser aur ac arch y cyfammod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon y mae crochan aur ag ynddo y manna, a gwialen Aaron,

5yr hon a flagurodd, a llechau’r cyfammod; ac uwch ei phen gerubiaid y gogoniant, yn cysgodi’r drugareddfa; ac am y pethau hyn ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.

6A’r pethau hyn wedi eu parottoi felly, i’r tabernacl cyntaf yn wastadol yr â’r offeiriaid i mewn, yn cyflawni’r gwasanaethau;

7ond i’r ail, un waith yn y flwyddyn, yr arch-offeiriad ar ei ben ei hun, nid heb waed, yr hwn a offrwm efe drosto ei hun, ac am gyfeiliornadau’r bobl;

8hyn yn cael ei hyspysu gan yr Yspryd Glân, nad amlygwyd etto y ffordd i’r cyssegr, tra y mae’r tabernacl cyntaf yn sefyll;

9a hyn sydd ddammeg am yr amser presennol, yn ol yr hon y mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymmu, heb ganddynt allu, o ran cydwybod,

10i berffeithio’r addolydd, gan nad ydynt ond (gyda bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau) defodau cnawdol, wedi eu gosod hyd amser cywiriad.

11Ond Crist wedi dyfod, Arch-offeiriad y pethau da i ddyfod, trwy’r tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw,

12hyny yw, nid o’r greadigaeth hon, ac nid trwy waed geifr a lloi, ond trwy Ei waed Ei hun, a aeth i mewn, un waith am byth, i’r cyssegr, wedi cael prynedigaeth tragywyddol.

13Canys os gwaed geifr a theirw, a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, a sancteiddiai i lanhad y cnawd,

14pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr Hwn trwy’r Yspryd Tragywyddol a offrymmodd Ef Ei hun yn ddianaf i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw Byw?

15Ac o herwydd hyn i gyfammod newydd y mae Efe yn Gyfryngwr, fel, marwolaeth wedi digwydd er prynedigaeth y troseddau tan y cyfammod cyntaf, y derbyniai y rhai a alwyd addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.

16Canys lle y mae testament, marwolaeth yr hwn a’i gwnaeth sydd a rhaid iddi ddyfod,

17canys ewyllys, ar ol marw dynion y mae’n ddiymmod, gan nad yw un amser a nerth ynddi tra byw y mae’r hwn a’i gwnaeth.

18A chan hyny, ni fu i hyd yn oed y cyntaf ei gyssegru heb waed:

19canys wedi adrodd pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Mosheh i’r holl bobl, wedi cymmeryd gwaed y lloi a’r geifr, gyda dwfr a gwlân porphor ac hussop, ar y llyfr ei hun a’r holl bobl y taenellodd efe, gan ddywedyd,

20“Hwn yw gwaed y cyfammod a orchymynodd Duw tuag attoch.”

21A’r tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe yn y cyffelyb fodd.

22Ac â gwaed bron pob peth a lanheir yn ol y Gyfraith, ac heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.

23Rhaid oedd, gan hyny, i bortreiadau y pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r rhai hyn; ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn;

24canys nid i gyssegr o waith llaw yr aeth Crist i mewn, gwrth-lun y gwir gyssegr, eithr i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni;

25ac nid fel yn fynych yr offrymmai Ef Ei hun, fel y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cyssegr bod blwyddyn â gwaed arall,

26canys rhaid fuasai Iddo yn fynych ddioddef er seiliad y byd; ond yn awr, un waith am byth, yn niwedd yr oesoedd, er diddymmiad pechod trwy yr aberth o Hono Ei hun, yr amlygwyd Ef.

27Ac fel y mae mewn cadw i ddynion, un waith am byth,

28farw, ac wedi hyny farn, felly hefyd Crist, un waith am byth wedi Ei offrymmu, i ddwyn pechodau llawer, ail waith, yn wahan oddiwrth bechod yr ymddengys i’r rhai sydd yn Ei ddisgwyl er iachawdwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help