7Ac agorwyd eu llygaid hwy ill dau, a gwybuant mai noethion oeddynt hwy, a gwniasant ddail ffigysbren, a gwnaethant iddynt eu hunain wregysau,
8a chlywsant swn Iehofah Elohim yn rhodio yn yr ardd gydag awel y dydd, ac ymguddiodd y dyn a’i wraig rhag golwg Iehofah Elohim ynghanol prenau’r ardd.
9A galwodd Iehofah Elohim ar y dyn, a dywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?
10A dywedodd efe, Dy swn a glywais yn yr ardd, ac ofnais gan mai noeth wyf fi, ac ymguddiais.
11A dywedodd Efe, Pwy a fynegodd i ti mai noeth wyt ti? Ai o’r pren yr hwn y gorchymynais i ti beidio a bwytta o hono, y bwyteais?
12A dywedodd y dyn, Y wraig yr hon a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a bwytteais.
13A dywedodd Iehofah Elohim wrth y wraig, Pa beth yw hyn a wnaethost? A dywedodd y wraig, Y Sarph a’m twyllodd, a bwytteais.
14A dywedodd Iehofa Elohim wrth y Sarph, Am wneuthur o honot hyn, melltigedig wyt ti allan o’r holl anifeiliaid, ac allan o holl fwystfilod y maes: ar dy dorr yr âi, a llwch a fwyttai holl ddyddiau dy einioes.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.