Diarhebion 21 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXI.

1 Llusern yr annuwiolion,—pechod (yw).

5Amcanion y diwyd,—yn unig i helaethrwydd (y maent),

Ond pob un ar frys,—yn unig i eisiau.

6Ennilliad trysorau trwy dafod gau,

Anadl a chwelir (yw)—maglau angau (yw).

7Anrhaith yr annuwiolion a ’u cipia ymaith,

Am wrthod o honynt wneuthur uniondeb.

8Trofâus (yw) ffordd gwr llwythog o droseddau,

Ond y pur, uniawn (yw) ei waith.

9Gwell (yw) trigo ar gongl tô,

Na gwraig ymrysongar a thŷ—gyda (hi).

10Enaid yr annuwiol a chwennych ddrwg,

Ni thrugarhêir ger ei fron ef wrth ei gyfaill.

11Pan gosper gwatwarwr, doeth yr â ’r ehud,

A phan gyfarwydder y doeth y derbyn efe wybodaeth.

12Tremia Y Cyfiawn ar dŷ ’r annuwiol,

Dadymchwel yr annuwiolion i ddrwg.

13A gauo ei glust rhag llef yr anghenus,

Yntau hefyd a eilw, ac ni wrandewir ef.

14Rhodd yn y dirgel a blyga ddig,

A hudwobr i ’r fynwes, lid cryf.

15Llawen gan y cyfiawn wneuthur uniondeb,

Ond dinystr, gan weithwyr anwiredd.

16Y dyn a gyfeiliorno allan o ffordd pwyll,

Ynghynnulleidfa ’r gwyllion y gorphwys efe.

17Gwr mewn eisiau (fydd) carwr difyrwch,

Carwr gwin ac olew ni chyfoethogir.

18 doeth,

Ond yr ynfyttaf o ddynion a ’u llwngc.

21A ddilyno gyfiawnder a thrugaredd,

A gaiff fywyd, cyfiawnder ac anrhydedd.

22I ddinas gwroniaid yr esgynodd (gwr) doeth,

Ac y cwympodd nerth ei hyderwch hi.

23A gadwo ei enau a ’i dafod

A geidw ei enaid rhag cyfyngderau.

24Y balch chwyddedig, gwatwarwr (yw) ei enw,

Gweithreda yn llidiowgrwydd balchder.

25Yr ewyllysio gan y swrth a’i lladd ef,

Canys gwrthyd ei ddwylaw weithio:

26Beunydd yr ewyllysia efe âg ewyllysio,

Ond y cyfiawn, rhoddi y mae ac heb arbed.

27Aberth yr annuwiolion (sydd) ffieiddbeth;

Pa faint mwy, pan trwy ddrygioni y dwg efe ef?

28Tyst celwyddog a ddifethir,

Ond y gwr a wrandawo, byth y llefara efe.

29Caleda gwr annuwiol ei wyneb,

Ond yr uniawn, hwn a sicrhâ ei ffyrdd,

30Nid oes doethineb, ac nid oes deall,

Ac nid oes cynghor,—yn erbyn Iehofah.

31Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr,

Ond eiddo Iehofah (yw) ’r fuddugoliaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help