1Gweddi o eiddo Dafydd.
Gogwydda, O Iehofah, Dy glust, a gwrando fi,
Canys truan ac anghenus myfi!
2Cadw fy enaid, canys sant myfi!
Cynhorthwya Dy was, O Dydi fy Nuw,
Yr hwn sy’n ymddiried ynot Ti!
3Bydd raslawn wrthyf, O Arglwydd,
Canys arnat Ti y galwaf beunydd!
4Llawenhâ enaid Dy was,
Canys attat Ti, O Arglwydd, fy enaid a dderchafaf!
5Canys Tydi, O Arglwydd (wyt) dda a maddeugar,
Ac o fawr drugaredd i’r holl rai a alwont Arnat.
6Dyro glust, O Iehofah, i’m gweddi,
A chlyw lais fy ymbil!
7Yn nydd fy nghyfyngder y galwaf arnat Ti,
Canys gwrandewi arnaf!
8Nid oes fel Tydi ym mysg y duwiau, O Arglwydd,
Ac nid oes fel Dy weithredoedd Di.
9Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost,
A ddeuant ac a warogaethant ger Dy fron Di, O Arglwydd,
Ac a roddant anrhydedd i’th enw,
10Canys mawr Tydi, ac yn gwneuthur rhyfeddodau.
Tydi (wyt) Dduw yn unig!
11Dysg i mi, O Iehofah, Dy ffordd,
Bydded i mi rodio yn Dy wirionedd,
Una fy nghalon i ofni Dy enw!
12Moliannaf Di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon,
Ac anrhydeddaf Dy enw yn dragywydd,
13Canys Dy drugaredd (sydd) fawr tuag attaf,
A gwaredaist fy enaid rhag annwn isod!
14O Dduw, y rhyfygus rai a gyfodasant i’m herbyn,
A chynnulleidfa’r arswydbair rai a geisiasant fy enaid,
Ac ni’th osodasant Di ger eu bron;
15Ond Tydi, O Arglwydd (wyt) Dduw trugarog a graslawn,
Hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a ffyddlondeb:
16Tro attaf, a bydd raslawn wrthyf,
Dyro Dy nerth i’th was,
A chynnorthwya fab Dy wasanaethferch!
17Gwna i mi arwydd er daioni:
A gweled fy nghaseion, gyda gwaradwydd,
Mai Tydi, O Iehofah, a’m cynhorthwyaist ac a’m diddanaist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.