1Bendithia, O fy enaid, Iehofah!
O Iehofah, fy Nuw, tra mawr ydwyt,
A gogoniant ac ardderchowgrwydd yr ymwisgaist,
2Yn ymdöi â goleuni megis â mantell,
Ac yn taenu’r nefoedd fel llen;
3Yr Hwn sy’n gwneyd tỳlathau Ei oruwch-ystafelloedd o ddyfroedd,
Yr Hwn sy’n gwneuthur y cymmylau yn gerbyd Iddo,
Yr Hwn sy’n rhodio ar adenydd y gwynt,
4Yn gwneuthur y gwyntoedd yn genhadon Iddo,
A’r tân fflamllyd yn weinidogion Iddo.
5Seiliodd Efe’r ddaear ar ei sylfeini,
Fel na syflo yn dragywydd a byth:
6A llifeiriant, megis â gwisg, y gorchuddiaist hi.
ffoisant,
Gan Dy lais taranllyd yr aethant dan grynu,
8—Ymgododd mynyddoedd, ymddisgynodd dyffrynoedd,—
I’r lle hwn a seiliaist iddynt;
9Terfyn a osodaist,—nid ânt drosto,
Ni ddychwelant i orchuddio’r ddaear:
10Yr Hwn sy’n gyrru’r ffynhonnau i’r dyffrynoedd,
Rhwng y mynyddoedd y cerddant hwy;
11Dïodant holl fwystfilod y maes,
Torra’r asynod gwylltion eu syched;
12Ger llaw iddynt adar y nefoedd a drigant,
Oddi rhwng y cangau y rhoddant (eu) llais:
13Yr Hwn sy’n dïodi’r mynyddoedd o’i oruwch-ystafelloedd,
O ffrwyth Dy weithredoedd y gorddigonir y ddaear;
14Yr Hwn sy’n peri egino glaswellt i’r anifail,
A’r llysieuyn i wasanaeth dyn,
Tra y dwg Efe fara allan o’r ddaear,
15A gwin (yr hwn) a lawenycha galon dyn
Gan beri disgleirio’r gwyneb yn fwy nag olew,
A bara,—calon dyn a gynnal efe:
16 Gorddigonir preniau Iehofah,
Cedrwydd Lebanon y rhai a blannodd Efe,
17Y rhai y mae’r adar yn nythu ynddynt;
Y chwibon, y ffynnidwydd (yw) ei dŷ;
18Y mynyddoedd uchaf (sydd) i’r geifr gwylltion,
Y creigiau (sydd) noddfa i’r cwningod:
19Gwnaeth Efe’r lleuad i amserau nodedig,
Yr haul a edwyn ei fachludiad;
20Gwnei dywyllwch,—a bydd nôs,
Yn yr hon yr ymlusga allan holl fwystfilod y coed,
21Y llewod ieuaingc yn rhuo am ysglyfaeth,
A chan geisio gan Dduw eu bwyd;
22Cwyd yr haul,—cymmerant eu hunain ymaith,
Ac yn eu llochesau y gorweddant;
23Myned allan a wna dyn i’w waith,
Ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.
24Mor lliosog yw Dy weithredoedd, O Iehofah!
Hwynt oll, mewn doethineb y’u gwnaethost!
Llawn yw ’r ddaear o’th grëadigaeth!
25Y môr hwn,—mawr (yw) a llydan o bob tu!
Yno (y mae) ymlusgiaid ac heb rifedi,
26Bwystfilod, bychain yn gystal â mawrion;
Yno y llongau a rodiant,
(A)’r addanc hwn a’r a luniaist i chwareu âg ef:
27Hwynt oll wrthyt Ti a ddisgwyliant,
Am roddi (o Honot) eu bwyd yn ei bryd;
28Rhoddi iddynt,—casglant (ef),
Agori Dy law,—gorddigonir hwy â daioni;
29Cuddi Dy wyneb,—derfydd am danynt,
Dy yspryd,—creïr hwynt,
Ac adnewyddi wyneb y ddaear.
31Boed gogoniant Iehofah yn dragywydd,
Llawenyched Iehofah yn Ei weithredoedd!
32Yr Hwn a edrych ar y ddaear,—a chryn hi,
Cyffwrdd Efe â’r mynyddoedd,—a mygant!
33Canaf i Iehofah tra fyddwyf byw,
Tarawaf y tannau i Dduw tra ’r wyf etto mewn bod;
34Boddhâol Ganddo fo fy nghanu mawl!
Myfi a lawenychaf yn Iehofah:
35Difäer y pechaduriaid o’r ddaear,
A’r annuwiolion,—mwyach na foent!
Bendithia, O fy enaid, Iehofah!
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.