1O herwydd hyn y mae rhaid rhoddi o honom ystyriaeth yn fwy rhagorol i’r pethau a glybuwyd, rhag un amser ein troi ymaith;
2canys os y gair a lefarwyd trwy angylion a wnaed yn ddiymmod, a phob troseddiad ac anufudd-dod a dderbyniodd gyfiawn daledigaeth,
3pa fodd y diangwn ni, ar ol bod yn ddiofal o iachawdwriaeth mor fawr, yr hon wedi cael yn y dechreuad ei llefaru trwy’r Arglwydd, gan y rhai a glywsant y’i sicrhawyd i ni,
4Duw yn cyd-dystiolaethu ag arwyddion a rhyfeddodau ac amryw wyrthiau a chyfranniadau yr Yspryd Glân yn ol Ei ewyllys Ef?
5Canys nid i angylion y darostyngodd Efe y byd ar fedr dyfod,
6am yr hwn yr ydym yn llefaru, ond tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw le, gan ddywedyd,
“Pa beth yw dyn, am i Ti ei gofio,
Neu fab dyn, am i Ti ymweled ag ef?
7Rhyw ychydig llai y gwnaethost ef nag angylion;
A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef,
A gosodaist ef ar weithredoedd Dy ddwylaw:
8Pob peth a ddarostyngaist tan ei draed.”
Canys yn “Y darostwng pob peth iddo,” nid oedd dim a adawodd Efe heb ei ddarostwng iddo: ond yn awr nid ydym etto yn gweled mai iddo ef y mae pob peth wedi ei ddarostwng.
9Ond yr Hwn a “wnaed rhyw ychydig llai nag angylion” a welwn, yr Iesu, o herwydd dioddef marwolaeth, wedi Ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw tros bob dyn yr archwaethai farwolaeth,
10canys gweddai Iddo Ef, o herwydd yr Hwn y mae pob peth, a thrwy’r Hwn y mae pob peth, gan ddyfod â llawer o feibion i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddioddefiadau;
11canys yr Hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai yn cael eu sancteiddo, o Un y maent oll; am ba achos nid oes Arno gywilydd eu galw yn
12frodyr, gan ddywedyd,
“Mynegaf Dy enw i’m brodyr,
Ynghanol y gynnulleidfa y’th folaf:”
13a thrachefn,
“Myfi fyddaf yn ymddiried Ynddo:”
a thrachefn,
“Wele, Myfi a’r plant a roddes Duw i Mi.”
14Gan hyny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, Efe hefyd yn y cyffelyb fodd a gymmerth ran o’r un pethau, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn oedd a chanddo allu marwolaeth, hyny yw, diafol;
15ac y rhyddhaai hwynt y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddeiliaid caethiwed:
16canys yn wir nid angylion y mae Efe yn eu cynnorthwyo, eithr had Abraham y mae Efe yn ei gynnorthwyo:
17am ba achos y dylai ym mhob peth Ei wneud yn gyffelyb i’w frodyr, fel y byddai yn Arch-offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau tuag at Dduw,
18i wneuthur cymmod am bechodau’r bobl: canys yn yr hyn y dioddefodd Efe Ei hun gan gael Ei demtio, abl yw i gymhorth y rhai sy’n cael eu temtio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.