1Ysgrifen o eiddo Dafydd.
Cadw fi, O Dduw,
Canys ymddiried yr wyf ynot Ti!
2Dywedyd yr wyf wrth Iehofah, “Fy Arglwydd Tydi (ydwyt),”
Dim da nid (oes) gennyf ond Tydi.
3Y sanctaidd bobl a’r sydd yn y tir—y rhai hyn,
A ’r pendefigion a ’r oedd fy holl hyfrydwch ynddynt,
4Aml yw eu heulunod, at (dduw) dïeithr y brysiasant:
Nid offrymmaf eu dïod-offrymmau hwynt o waed,
Ac ni chymmeraf eu henwau yn fy ngwefusau,
5Iehofah (yw) rhan fy etifeddiaeth a ’m cwppan i.
Tydi wyt Gynhaliwr fy nghyfran;
6Y meddiant a ddigwyddodd i mi mewn siriol (leoedd)
Ië, yr etifeddiaeth a ’m hyfryda:
7Bendithiaf Iehofah yr Hwn a ’m cynghorodd,
Ië, y nos y dysg fy arennau fi;
8Gosodais Iehofah ger fy mron beunydd,
Canys,—Efe ar fy neheulaw, ni ’m siglir!
9Gan hyny y llawenycha fy nghalon, ac y gorfoledda fy yspryd,
Ië, fy nghnawd a breswylia mewn hyder,
10Canys ni adewi fy enaid i annwn,
Ni oddefi i ’th sanct deimlo ’r bedd;
11Hyspysi i mi lwybr bywyd;
Gorlawnder llawenydd (sy) ger Dy fron Di,
(Ac) hyfrydwch yn Dy ddeheulaw yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.