Yr Actau 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A Shawl, etto yn chwythu bwgwth a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, wedi myned at yr archoffeiriad,

2a ddeisyfiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y sunagogau, fel os cai rai o’r ffordd honno, na gwŷr na gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Ierwshalem.

3Ac wrth fyned o hono, bu iddo nesau i Damascus, ac yn ddisymmwth y llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef:

4ac wedi syrthio ar y ddaear, clywodd lais yn dywedyd wrtho, Shawl, Shawl, paham mai Myfi a erlidi?

5A dywedodd efe, Pwy wyt, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd, Myfi wyf Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.

6Eithr cyfod, a dos i’r ddinas, a dywedir wrthyt pa beth y mae rhaid i ti ei wneuthur.

7A’r dynion oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, yn clywed y llais yn wir, ond heb weled neb.

8A chyfododd Shawl oddiar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai ddim; a chan ei dywys erbyn ei law, dygasant ef i mewn i Damascus;

9ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni fwyttaodd nac yfed.

10Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Damascus a’i enw Ananias; ac wrtho, mewn gweledigaeth, y dywedodd yr Arglwydd, Ananias; ac efe a ddywedodd, Wele, myfi, Arglwydd.

11A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Uniawn, a chais yn nhŷ Iwdas Shawl wrth ei enw, o Tarsus; canys wele, gweddïo y mae, a gwelodd ŵr,

12Ananias wrth ei enw, wedi dyfod i mewn a dodi arno ei ddwylaw fel y gwelai eilwaith.

13Ac attebodd Ananias, Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint yn Ierwshalem;

14ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriad, i rwymo pawb sy’n galw ar Dy enw.

15Ac wrtho y dywedodd yr Arglwydd, Dos, canys llestr etholedig i Mi yw hwn, i ddwyn Fy enw ger bron cenhedloedd a brenhinoedd, a meibion Israel.

16Canys Myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae rhaid iddo eu dioddef er mwyn Fy enw.

17Ac aeth Ananias ymaith, ac aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi arno ei ddwylaw, dywedodd, Shawl frawd, yr Arglwydd a’m danfonodd, Iesu yr Hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost, fel y gwelych eilwaith ac y’th lanwer â’r Yspryd Glân.

18Ac yn uniawn y syrthiodd oddiwrth ei lygaid fel pe bai cen, a gwelodd efe eilwaith;

19ac wedi cyfodi, bedyddiwyd ef; ac wedi cymmeryd bwyd cryfhaodd.

Ac yr oedd efe gyda’r disgyblion oedd yn Damascus dalm o ddyddiau.

20Ac yn uniawn yn y sunagogau y pregethodd efe yr Iesu, mai Efe yw Mab Duw.

21A synnodd yr holl rai a glywent, a dywedasant, Onid hwn yw’r dyn a anrheithiai yn Ierwshalem y rhai a alwent ar yr enw hwn; ac yma, er mwyn hyn y daeth, fel y dygai hwynt yn rhwym ger bron yr archoffeiriaid?

22A Shawl a gynnyddai fwy-fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iwddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan arddangos mai Hwn yw y Crist.

23A phan gyflawnwyd dyddiau lawer, cydymgynghorodd yr Iwddewon i’w ladd ef.

24Ac hysbyswyd eu cydfwriad i Shawl; a gwylient y pyrth ddydd a nos, fel y lladdent ef.

25A’r disgyblion a’i cymmerasant liw nos, a thrwy’r mur y gollyngasant ef i wared, gan ei ollwng i lawr mewn cawell.

26Ac wedi dyfod i Ierwshalem, ceisiai ymgyssylltu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnent ef, gan na chredent ei fod yn ddisgybl.

27Ond Barnabas, gan ei gymmeryd ef, a’i dug at yr apostolion, a mynegodd iddynt pa fodd y bu iddo ar y ffordd weled yr Arglwydd, ac y llefarodd Efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y llefarai yn hyderus yn enw yr Iesu.

28Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Ierwshalem, yn llefaru yn hyderus yn enw’r Arglwydd.

29A llefarai ac ymddadleuai yn erbyn yr Iwddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef.

30Ac wedi cael gwybodaeth o hyn, y brodyr a’i dygasant i wared i Cesarea, a danfonasant ef ymaith i Tarsus.

31Gan hyny, yn wir, yr eglwys trwy holl Iwdea a Galilea a Shamaria a gafodd heddwch, gydag adeiladaeth; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Yspryd Glân y lliosogid.

32A bu i Petr, pan yn tramwy trwy’r holl barthau, ddyfod i wared hefyd at y saint yn preswylio yn Luda;

33a chafodd yno ryw ddyn, Aineas wrth ei enw, er’s wyth mlynedd yn gorwedd ar orweddfa, yr hwn oedd glaf o’r parlys;

34ac wrtho y dywedodd Petr, Aineas, dy iachau y mae Iesu Grist: cyfod, a chyweiria dy wely i’th hun. Ac yn uniawn y cyfododd;

35ac ei weled ef a fu i bawb oedd yn preswylio yn Luda a Sharon, a hwy a ymchwelasant at yr Arglwydd.

36Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, yr hwn o’i gyfieithu a elwir Dorcas; a hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusenau, y rhai a wnelai.

37A digwyddodd yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw; ac wedi ei golchi hi, dodasant hi mewn llofft.

38A chan fod Luda yn agos i Ioppa, y disgyblion wedi clywed fod Petr yno, a ddanfonasant ddau ŵr atto, gan ddeisyf arno, Nac oeda ddyfod trosodd hyd attom.

39Ac wedi cyfodi, Petr a aeth gyda hwynt; ac ar ei ddyfodiad dygasant ef i fynu i’r llofft; ac yn ei ymyl y safodd yr holl wragedd gweddwon yn gwylo ac yn dangos peisiau a chochlau, y rhai a wnaeth Dorcas tra’r ydoedd gyda hwynt.

40Ac wedi bwrw allan yr oll o honynt, a dodi ei liniau ar lawr, Petr a weddïodd; a chan droi at y corph, dywedodd, Tabitha, cyfod; a hi a agorodd ei llygaid; a chan weled Petr, cyfododd yn ei heistedd.

41Ac wedi rhoi iddi ei law, cyfododd efe hi i fynu; ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, gosododd hi ger bron yn fyw.

42Ac hyspys yr aeth trwy holl Ioppa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.

43A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Ioppa gydag un Shimon, barcer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help