S. Luc 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A’r Iesu yn llawn o’r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr Yspryd yn yr anialwch ddeugain niwrnod,

2yn cael ei demtio gan ddiafol; ac ni fwyttaodd ddim yn y dyddiau hyny; ac wedi eu diweddu, chwant bwyd fu Arno.

3A dywedodd diafol Wrtho, Os Mab Duw wyt, dywaid wrth y garreg hon i fyned yn fara.

4Ac attebodd yr Iesu iddo, Ysgrifenwyd,

5“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.” Ac wedi Ei ddwyn Ef i fynu, dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd mewn munud o amser.

6A dywedodd diafol Wrtho, I Ti y rhoddaf yr awdurdod hon i gyd ac eu gogoniant; canys i mi eu traddodwyd, ac i bwy bynnag yr ewyllysiaf y rhoddaf hi;

7os Tydi, gan hyny, a ymochreini o’m blaen, bydd yr oll yn eiddo Ti.

8A chan atteb iddo, dywedodd yr Iesu, Ysgrifenwyd, “I Iehofah dy Dduw yr ymochreini, ac Ef yn unig a wasanaethi.”

9A dug efe Ef i Ierwshalem, a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho,

10Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun oddi yma i lawr, canys ysgrifenwyd,

“I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat;

11Ac ar eu dwylaw y’th ddygant,

Rhag un amser i Ti daro Dy droed wrth garreg.”

12A chan atteb, dywedodd yr Iesu wrtho, Dywedwyd, “Ni themti Iehofah dy Dduw.”

13Ac wedi gorphen yr holl demtasiwn, diafol a ymadawodd ag Ef tan amser cyfaddas.

14A dychwelodd yr Iesu yn nerth yr Yspryd i Galilea, a son a aeth allan am Dano trwy’r holl fro oddi amgylch;

15ac Efe a ddysgai yn eu sunagogau, yn cael Ei ogoneddu gan bawb.

16A daeth i Natsareth, lle y magesid Ef, ac aeth i mewn, yn ol Ei arfer, ar ddydd y Sabbath, i’r sunagog, a safodd i fynu i ddarllain;

17a rhoddwyd Atto Lyfr y Prophwyd Eshaiah; ac wedi agor o Hono y llyfr, cafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18“Yspryd Iehofah sydd Arnaf,

Canys enneiniodd fi i efengylu i dlodion;

Danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ollyngdod,

Ac i ddeillion gaffaeliad golwg,

19I ddanfon ymaith ddrylliedigion, mewn rhydd-deb,

I gyhoeddi blwyddyn foddhaol Iehofah.”

20Ac wedi cau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, eisteddodd; a llygaid pawb yn y sunagog oeddynt yn craffu Arno.

21A dechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr Ysgrythyr hon yn eich clustiau.

22A phawb a dystiolaethent Iddo, ac a ryfeddent wrth y geiriau grasusol oedd yn dyfod allan o’i enau; a dywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph?

23A dywedodd wrthynt, Yr oll o honoch a adroddwch Wrthyf y ddammeg hon, “Feddyg, iacha dy hun;” cymmaint ag a glywsom eu gwneuthur yn Caphernahwm, gwna hefyd yma yn Dy wlad Dy hun.

24A dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun.

25Mewn gwirionedd y dywedaf wrthych, Llawer o wragedd gweddwon oedd, yn nyddiau Elias, yn yr Israel, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir,

26ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, oddieithr i Sarepta yngwlad Tsidon at wraig weddw;

27a llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisha y prophwyd, ac nid yr un o honynt a lanhawyd oddieithr Naaman y Tsuriad.

28A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y sunagog,

29wrth glywed y pethau hyn, ac wedi codi o honynt bwriasant Ef allan o’r ddinas, a dygasant Ef hyd ael y bryn ar yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu, i’w fwrw Ef bendramwnwgl i lawr:

30ond Efe, wedi myned drwy eu canol, a aeth Ei ffordd.

31A daeth i wared i Caphernahwm, dinas yn Galilea; ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath;

32ac aruthr fu ganddynt o herwydd Ei ddysgad, canys gydag awdurdod yr oedd Ei ymadrodd.

33Ac yn y sunagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan, a gwaeddodd â llais mawr,

34Och, pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu y Natsaread? A ddaethost i’n difetha ni? Adwaenwn Di pwy ydwyt, Sanct Duw.

35A dwrdiodd yr Iesu Ef, gan ddywedyd, Distawa, a thyred allan o hono ef. Ac wedi ei daflu ef i’r canol, y cythraul a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niweid iddo.

36Ac yr oedd aruthredd ar bawb, a chyd-lefarasant â’u gilydd gan ddywedyd, Pa beth yw’r gair hwn, canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn Efe i’r ysprydion aflan, a dyfod allan y maent?

37Ac aeth allan son am Dano i bob man o’r wlad oddi amgylch.

38Ac wedi cyfodi o Hono o’r sunagog, aeth i mewn i dŷ Shimon; a chwegr Shimon oedd wedi ei dala gan gryd mawr; a gofynasant iddo drosti.

39A chan sefyll uwch ei phen hi, dwrdiodd y cryd, ac efe a’i gadawodd hi; ac wedi cyfodi o honi yn uniawn, gwasanaethodd arnynt.

40Ac wrth fachludo o’r haul cymmaint ag oedd a chanddynt gleifion o amryw glefydau, a ddaethant â hwynt Atto Ef: ac Efe, gan roddi Ei ddwylaw ar bob un o honynt, a’u hiachaodd hwynt;

41a dyfod allan yr oedd cythreuliaid, o laweroedd, dan waeddi a dywedyd, Ti yw Mab Duw; a chan eu dwrdio, ni adawai iddynt ddweud y gwyddent mai Efe oedd y Crist.

42A phan aethai hi yn ddydd, wedi myned allan yr aeth i le anial; a’r torfeydd a’i ceisiasant Ef, ac a ddaethant hyd Atto, ac a’i hattaliasant rhag myned oddi wrthynt; ond Efe a ddywedodd wrthynt,

43I’r dinasoedd eraill hefyd y mae rhaid i Mi efengylu teyrnas Dduw, canys i hyny y’m danfonwyd.

44Ac yr oedd Efe yn pregethu yn sunagogau Galilea.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help