Rhufeiniaid 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Gorchymynaf i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i’r eglwys y sydd yn Cenchrea,

2fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint, ac y cynnorthwyoch hi ym mha beth bynag y byddo rhaid iddi wrthych, canys hi hefyd a fu gymmorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.

3Annerchwch Prisca ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yn Iesu Grist,

4y rhai dros fy mywyd i a ddodasant i lawr eu gyddfau eu hunain; i’r rhai nid myfi yn unig sydd yn rhoddi diolch, eithr hefyd holl eglwysydd y cenhedloedd;

5annerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Annerchwch Epenetus, fy anwylyd, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist.

6Annerchwch Mair, yr hon a roes lafur mawr arnoch.

7Annerchwch Andronicus ac Iwnias, fy ngheraint ac fy nghyd-garcharorion, y rhai ydynt hynod ym mhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt o’m blaen i yng Nghrist.

8Annerchwch Ampliatus, fy anwylyd yn yr Arglwydd.

9Annerchwch Wrbanus, ein cyd-weithiwr yng Nghrist; a Stachus, fy anwylyd.

10Annerchwch Apeles, y cymmeradwyedig yng Nghrist. Annerchwch y rhai sy o dylwyth Aristobwlus.

11Annerchwch Herodion, fy nghar. Annerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.

12Annerchwch Truphena a Truphosa, y rhai sy’n llafurio yn yr Arglwydd. Annerchwch Persis, yr anwylyd, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd.

13Annerchwch Rwphus, yr etholedig yn yr Arglwydd, ac ei fam ef a minnau.

14Annerchwch Asuncritus, Phlegon, Hermes, Patrobus, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt.

15Annerchwch Philologus ac Iwlia, Nerëus a’i chwaer, ac Olumpas, a’r holl saint y sydd gyda hwynt.

16Annerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Eich annerch y mae holl eglwysi Crist.

17Ac attolygaf i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sy’n peri ymraniadau a thramgwyddau yn groes i’r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt;

18canys y cyfryw rai, ein Harglwydd Crist ni wasanaethant, eithr eu bol eu hunain; a thrwy eu gweniaith ac ymadrodd teg y twyllant galonnau y rhai di-ddrwg.

19Canys eich ufudd-dod chwi, at bawb y daeth. Ynoch chwi, gan hyny, yr wyf yn llawenychu; ond ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sy dda, ac yn wirion tuag at yr hyn sydd ddrwg.

20A Duw yr heddwch a ysiga Satan tan eich traed ar frys.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.

21Eich annerch y mae Timothëus, fy nghydweithiwr, a Lwcius, ac Iason, a Sosipater, fy ngheraint.

22Eich annerch yr wyf fi Tertius, yr hwn a ’sgrifenais yr epistol hwn yn yr Arglwydd.

23Eich annerch y mae Gaius, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich annerch y mae Erastus, disdain y ddinas; a Cwartus, y brawd.

25I’r Hwn sydd abl i’ch cadarnhau yn ol fy efengyl, a phregethiad Iesu Grist, yn ol datguddiad y dirgelwch am yr hwn yn yr amseroedd tragywyddol yr oedd distawrwydd, ond a eglurwyd yn awr trwy’r Ysgrythyrau Prophwydol yn ol gorchymyn y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hyspys i’r holl genhedloedd er ufudd-dod ffydd;

26i’r unig Dduw doeth, trwy Iesu Grist, i’r Hwn bydded y gogoniant yn dragywydd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help