1Cynnifer ag sydd dan yr iau, yn gaeth-weision, eu meistriaid barnont hwy yn deilwng o bob anrhydedd, fel na bo i enw Duw, a’r athrawiaeth, eu cablu.
2A’r rhai sydd a chredinwyr yn feistriaid, na ddirmygont hwynt am mai brodyr ydynt; eithr gwasanaethont yn fwy am mai credinwyr ac anwylyd yw’r rhai sydd gyfrannogion o’r lleshad. Y pethau hyn dysg a chynghora.
3Os athrawiaeth arall a ddysg neb, ac heb ddyfod at eiriau iachus, eiddo ein Harglwydd Iesu Grist, nac at yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb,
4chwyddo y mae, heb ddim gwybodaeth ganddo, eithr yn afiach ynghylch cwestiynau ac ymrysonau ynghylch geiriau, o’r rhai y cyfyd cynfigen, cynhen, cableddau, meddyliau drwg-cecraethau dynion llygredig eu meddwl ac wedi colli’r gwirionedd,
5ac yn tybied mai modd i ynnill yw duwioldeb;
6ond modd mawr i ynnill yw duwioldeb ynghyda boddi lonrwydd;
7canys nid oes dim a ddygasom i’r byd; canys dwyn dim allan chwaith nis gallwn:
8ond tra a chenym ymborth a’r pethau a’n gorchuddiant, â’r pethau hyn y’n digonir.
9Ond y rhai a fynnant fyned yn oludog, syrthio y maent i brofedigaeth a magl a chwantau ynfyd a niweidiol lawer, y rhai sy’n boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth:
10canys yn wreiddyn pob drwg y mae ariangarwch; yr hon, rhai yn chwannog iddi a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, a hwynt eu hunain a wanasant â gofidiau lawer.
11Ond tydi, ŵr Duw, y pethau hyn gochel; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra.
12Ymdrecha ymdrech ardderchog y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i’r hwn y’th alwyd, a chyffesaist y gyffes ardderchog ger bron llawer o dystion.
13Gorchymynaf i ti ger bron Duw, yr Hwn sy’n bywhau pob peth, a Christ Iesu, yr Hwn a dystiodd ger bron Pontius Pilatus y gyffes ardderchog;
14gadw o honot y gorchymyn yn ddifefl, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,
15yr Hwn yn ei amserau ei hun, a ddengys y Bendigedig ac unig Lywodraethwr, Brenhin y rhai sy’n teyrnasu, ac Arglwydd y rhai sy’n arglwyddiaethu,
16yr Hwn yn unig sydd a Chanddo anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni na ellir dyfod atto, yr Hwn ni welodd neb o ddynion nac a all Ei weled, i’r Hwn y bo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen.
17I’r rhai goludog yn y byd presennol, gorchymyn na b’ont uchel feddwl, ac na obeithiont yn anamlygrwydd golud, eithr yn Nuw, yr Hwn sy’n rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog,
18er mwynhad; ar wneuthur o honynt ddaioni; ar fod yn oludog mewn gweithredoedd da, ar fod yn barod i ddosbarthu, yn chwannog i gyfrannu,
19gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr hyn sydd ar fedr dyfod, fel y caffont afael ar y gwir fywyd.
20O Timothëus, yr hyn a draddodwyd attat cadw, gan droi ymaith oddiwrth halogedig wag-seiniau a gwrthwynebiadau y wybodaeth a gam-enwir felly,
21yr hon rhai yn ei phroffesu, bu iddynt, o ran y ffydd, fethu taro’r nod.
Gras fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.