1Pob un y sy’n credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y cenhedlwyd ef; a phob un y sy’n caru yr Hwn a genhedlodd, caru y mae hefyd yr Hwn a genhedlwyd o Hono.
2Wrth hyn y gwyddom mai caru plant Duw yr ydym, pan Duw a garom, ac Ei orchymynion a gadwom;
3canys hwn yw cariad Duw, Gadw o honom Ei orchymynion; a’i orchymynion, trymion nid ydynt;
4canys pob peth wedi ei genhedlu o Dduw sy’n gorchfygu’r byd; a hon yw’r fuddugoliaeth a orchfygodd y byd, sef ein ffydd.
5A phwy yw’r hwn sy’n gorchfygu’r byd, oddieithr yr hwn sy’n credu mai Iesu yw Mab Duw?
6Hwn yw’r Hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dwfr yn unig, eithr yn y dwfr ac yn y gwaed;
7a’r Yspryd yw’r hyn sy’n tystiolaethu, gan mai’r Yspryd yw’r gwirionedd;
8canys tri yw’r rhai sy’n tystiolaethu, yr Yspryd, a’r dwfr, a’r gwaed; a’r tri un ydynt.
9Os tystioliaeth dynion a dderbyniwn; tystiolaeth Dduw, mwy yw, canys hon yw tystiolaeth Dduw, tystiolaethu o Hono am Ei Fab.
10Yr hwn sy’n credu ym Mab Duw sydd a’r dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nad yw’n credu yn Nuw, celwyddwr y’i gwnaeth Ef, gan na chredodd yn y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am Ei Fab.
11A hon yw’r dystiolaeth, Bywyd tragywyddol a roddes Duw i ni; a’r bywyd hwn, yn Ei Fab Ef y mae.
12Yr hwn sydd a chanddo’r Mab, sydd a chanddo y bywyd: yr hwn nad yw a chanddo Fab Duw, y bywyd nid yw ganddo.
13Y pethau hyn a ’sgrifenais attoch fel y gwypoch fod bywyd tragywyddol genych, attoch chwi y sy’n credu yn enw Mab Duw.
14A hwn yw’r hyder sydd genym tuag Atto Ef, sef os rhyw beth a ofynwn yn ol Ei ewyllys, ein gwrando y mae;
15ac os gwyddom mai ein gwrando y mae, pa beth bynnag a ofynom, gwyddom fod genym y gofyniadau a ofynasom Ganddo.
16Os rhyw un a welo ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, gofyn fydd iddo, a rhydd Duw iddo fywyd i’r rhai sy’n pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnw y dywedaf y bo iddo ofyn.
17Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid i farwolaeth.
18Gwyddom fod pob un a genhedlwyd o Dduw ddim yn pechu, eithr yr hwn a genhedlwyd o Dduw sydd yn ei gadw ei hun, a’r drwg nid yw’n cyffwrdd ag ef.
19Gwyddom mai o Dduw yr ydym; a’r byd oll, yn y drwg y mae’n gorwedd.
20A gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod, ac y rhoddes i ni ddeall, fel yr adnabyddom y Gwir Un; ac yr ydym yn y Gwir Un, yn Ei Fab, Iesu Grist. Hwn yw’r Gwir Dduw a bywyd tragywyddol.
21Plant bychain, cadwch eich hunain oddiwrth yr eulunod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.