1Cân y graddau.
Pan ddychwelodd Iehofah gaethiwed Tsïon,
Yr aethom fel y rhai sy’n breuddwydio:
2Yna, llawn o chwerthin oedd ein genau,
A’n tafodau o lawen-gân;
Yna y dywedasant ym mysg y cenhedloedd,
“Mawr bethau a wnaeth Iehofah i’r rhai hyn;”
3Mawr bethau a wnaeth Iehofah i ni,
Yr oeddym yn llawenychu!
4 Dychwel, O Iehofah, ein caethiwed,
Fel yr afonydd yn y dehau!
5Y rhai sy’n hau mewn dagrau,
A llawen-gân y bo iddynt fedi!
6Yr hwn gan fyned a â, a than wylo a gluda ’r hâd (sydd i’w) wasgaru,
Gan ddyfod deued efe â llawen-gân dan gludo ei ysgubau!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.