Galatiaid 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1O Galatiaid difeddwl, pwy a’ch swynodd chwi, i’r rhai, o flaen eich llygaid, y bu i Iesu Grist Ei bortreiadu yn groes-hoeliedig?

2Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu genych, Ai trwy weithredoedd y Gyfraith y derbyniasoch yr Yspryd, neu wrth wrandawiad ffydd?

3Ai mor ddi-feddwl ydych? Wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y’ch perffeithir?

4Ai cymmaint o bethau a ddioddefasoch yn ofer? os hefyd yn ofer y bu.

5Yr Hwn sy’n arlwyo i chwi yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y Gyfraith, neu o wrandawiad ffydd y mae?

6“Fel y bu i Abraham gredu Duw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder:”

7gwybyddwch, gan hyny, mai y rhai sydd o ffydd, hwynt-hwy yw meibion Abraham.

8A chan ragweled o’r Ysgrythyr mai trwy ffydd y cyfiawnhaai Duw y cenhedloedd, rhag-efengylodd i Abraham, “Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.”

9Felly y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlawn;

10canys cynnifer ag y sy o weithredoedd y Gyfraith, tan felldith y maent, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un nad yw yn parhau yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, i’w gwneuthur hwynt.”

11Ac mai trwy’r Gyfraith nad oes neb yn cael ei gyfiawnhau gyda Duw sydd eglur, canys, “Y cyfiawn trwy ffydd a fydd byw;”

12a’r Gyfraith nid yw o ffydd, eithr, “Yr hwn a’u gwnaeth fydd byw ynddynt.”

13Crist a’n prynodd ni o felldith y Gyfraith, wedi myned trosom yn felldith, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;”

14fel at y cenhedloedd y delai bendith Abraham yng Nghrist Iesu, fel y byddai addewid yr Yspryd i’w gael genym trwy ffydd.

15Brodyr, yn ol dyn yr wyf yn dywedyd: Cyfammod, er yn eiddo dyn, wedi ei gadarnhau, ni ddirymma neb, neu a rydd atto.

16Ac i Abraham yr adroddwyd yr addewidion, ac i’w had. Ni ddywaid, Ac i’r hadau fel am lawer, eithr fel am un, “Ac i’th had,” yr hwn yw Crist.

17A hyn a ddywedaf, Cyfammod a rag-gadarnhawyd gan Dduw, y Gyfraith yr hon a wnaed bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi’n, nid yw yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ddieffaith.

18Canys os o’r Gyfraith y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond i Abraham trwy addewid y rhoddodd Duw hi.

19Pa beth, gan hyny, yw’r Gyfraith? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg nes dyfod o’r had i’r hwn yr addawyd, wedi ei hordeinio trwy angylion, trwy Enw cyfryngwr.

20A’r cyfryngwr, nid i un y mae; ond Duw, un yw.

21A ydyw’r Gyfraith, gan hyny, yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw; canys pe rhoddasid cyfraith yn medru bywhau, yn wir o’r Gyfraith y buasai cyfiawnder.

22Eithr, cyd-gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y byddai i’r addewid, trwy ffydd yn Iesu Grist, ei roddi i’r rhai sy’n credu.

23Ond cyn na ddaeth ffydd, tan y gyfraith y’n gwarchadwyd, wedi ein cau i fynu i’r ffydd ar fedr ei datguddio;

24fel mai’r Gyfraith fu ein hyfforddwr at Grist, fel trwy ffydd y’n cyfiawnhaid.

25Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan hyfforddwr:

26canys yr oll o honoch, meibion Duw ydych trwy ffydd yng Nghrist Iesu;

27canys cynnifer o honoch ag i Grist y’ch bedyddiwyd, Crist a roisoch am danoch;

28nid oes yno Iwddew na Groegwr; nid oes yno gaeth na rhydd: nid oes yno wrryw na bannyw; canys yr oll o honoch, un ydych yng Nghrist Iesu; ac os a chwi yn eiddo Crist,

29yna had Abraham ydych, ac yn ol addewid yn etifeddion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help