1Gwelwch y fath gariad a roddwyd i ni gan y Tad, mai’r Plant i Dduw y’n gelwir; ac yr ydym. Oblegid hyn y byd ni’n hedwyn, gan nad adnabu Ef.
2Anwylyd, yn awr, plant i Dduw ydym; ac nid amlygwyd etto pa beth a fyddwn: gwyddom ped amlyger, cyffelyb Iddo y byddwn, y gwelwn Ef fel y mae.
3A phob un y sydd a chanddo y gobaith hwn Ynddo Ef, sy’n puro ei hun fel y mae Yntau yn bur.
4Pob un y sy’n gwneuthur pechod, anghyfraith hefyd y mae efe yn ei wneud; a phechod yw anghyfraith.
5A gwyddoch y bu Iddo Ef Ei amlygu, fel y dygai ymaith bechodau; a phechod Ynddo Ef nid oes.
6Pob un y sy’n aros Ynddo Ef, nid yw yn pechu; pob un y sy’n pechu, ni welodd Ef, ac nid yw yn Ei adnabod Ef chwaith.
7Plant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sy’n gwneuthur cyfiawnder, cyfiawn yw, fel y mae Efe yn gyfiawn.
8Yr hwn sy’n gwneuthur pechod, o ddiafol y mae, canys o’r dechreuad y mae diafol yn pechu. Er mwyn hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.
9Pob un o’r a genhedlwyd o Dduw, pechod nid yw yn ei wneud, canys Ei had Ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all bechu gan mai o Dduw y’i cenhedlwyd.
10Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant diafol: pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, ac yr hwn nad yw yn caru ei frawd.
11A hon yw’r gennadwri a glywsoch o’r dechreuad, Garu o honom ein gilydd:
12nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? O herwydd i’w weithredoedd ef fod yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn gyfiawn.
13Na ryfeddwch, frodyr, os eich casau y mae’r byd.
14Nyni a wyddom yr aethom drosodd o farwolaeth i fywyd, o herwydd caru o honom y brodyr. Yr hwn nad yw’n caru, aros ym marwolaeth y mae.
15Pob un y sy’n casau ei frawd, lleiddiad dyn yw: a gwyddom fod pob lleiddiad dyn heb a chanddo fywyd tragywyddol yn aros ynddo.
16Yn hyn y mae gwybodaeth am gariad genym, am Iddo Ef ddodi i lawr Ei fywyd drosom ni. A ninnau a ddylem ddodi i lawr ein bywyd dros y brodyr.
17Ond pwy bynnag sydd a chanddo dda y byd, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo?
18Plant bychain, na charwn ar air, nac â’r tafod, eithr mewn gweithred a gwirionedd:
19wrth hyn y gwybyddwn mai o’r gwirionedd yr ydym, a cher Ei fron Ef y perswadiwn ein calon,
20o ran pa beth bynnag y’n condemnia ein calon ynddo, canys mwy yw Duw na’n calon, a gwybod pob peth y mae.
21Anwylyd, os ein calon na’n condemnia, hyder sydd genym tuag at Dduw;
22a pha beth bynnag a ofynom, ei dderbyn oddiwrtho Ef yr ydym, gan mai Ei orchymynion a gadwn, a’r pethau yn rhyngu bodd yn Ei olwg yr ydym yn eu gwneuthur.
23A hwn yw Ei orchymyn; Gredu o honom yn enw Ei Fab Iesu Grist, a charu ein gilydd fel y rhoes Efe orchymyn i ni.
24A’r hwn sy’n cadw Ei orchymynion, Ynddo Ef y mae yn aros, ac Yntau ynddo yntau; ac wrth hyn y gwyddom mai aros y mae Efe ynom, sef o’r Yspryd, yr Hwn a roddes Efe i ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.