Datguddiad 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sy’n addoli ynddi;

2ac y cyntedd y sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan; ac ef na fesura, canys rhoddwyd ef i’r cenhedloedd, a’r ddinas sanctaidd a fathrant ddeufis a deugain.

3A rhoddaf i’m dau dyst, a phrophwydant fil a deucant a thrugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sach-liain.

4Y rhai hyn yw’r ddwy olew-wydden a’r ddau ganhwyllbren y sy’n sefyll ger bron Arglwydd y ddaear:

5ac os iddynt hwy yr ewyllysia neb wneuthur niweid, tân sy’n myned allan o’u genau, ac yn bwytta eu gelynion; ac os rhyw un a ewyllysia eu niweidio hwynt, fel hyn y mae’n rhaid iddo gael ei ladd.

6Y rhai hyn sydd a chanddynt y gallu i gau’r nef fel na bo gwlaw yn gwlawio am ddyddiau eu prophwydoliaeth; a gallu sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.

7A phan ddarffo iddynt orphen eu tystiolaeth, y bwystfil y sy’n esgyn allan o affwys a wna ryfel â hwynt, ac a’u gorchfyga, ac a’u lladd:

8ac eu cyrph a orweddant ar lydanfa y ddinas fawr, yr hon a elwir, yn ysprydol, Sodom, ac Yr Aipht, lle y bu i’w Harglwydd hefyd Ei groes-hoelio;

9ac edrych y mae rhai o’r bobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd, ar eu cyrph dridiau a hanner, ac i’w cyrph ni adawant eu rhoddi mewn bedd.

10A’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, llawenychu y maent trostynt ac yn ymhyfrydu, a rhoddion a ddanfonant i’w gilydd, canys y rhai hyn, y ddau brophwyd, a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear.

11Ac ar ol y tridiau a hanner, yspryd bywyd oddiwrth Dduw a aeth i mewn iddynt, a safasant ar eu traed, ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelent;

12a chlywsant lais mawr o’r nef, yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fynu yma; ac aethant i fynu i’r nef yn y cwmmwl, ac eu gweled a fu i’w gelynion.

13Ac yn yr awr honno y digwyddodd daear-gryn mawr, a’r ddegfed ran o’r ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y daear-gryn nifer enwau’r bobl, saith mil; a’r lleill a aethant yn frawychus, a rhoisant ogoniant i Dduw’r nef.

14Yr ail wae a aeth heibio. Wele, y drydedd wae sy’n dyfod yn fuan.

15A’r seithfed angel a udganodd, a bu lleisiau mawrion yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnas y byd yn deyrnas ein Harglwydd a’i Grist, a theyrnasa Efe yn oes oesoedd.

16A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai sydd ger bron Duw yn eistedd ar eu gorsedd-feingciau, a syrthiasant ar eu gwynebau,

17ac a addolasant Dduw, gan ddywedyd, Diolchwn i Ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, oblegid cymmeryd o Honot Dy allu mawr, a theyrnasu;

18a’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth Dy ddig, ac amser y meirw i’w barnu, a’r amser i roi eu gwobr i’th weision y prophwydi a’r saint a’r rhai sy’n ofni Dy enw, y bychain a’r mawrion, ac i ddifetha’r rhai sy’n difetha’r ddaear.

19Ac agorwyd teml Dduw, yr hon sydd yn y nef, a gwelwyd arch Ei gyfammod yn Ei deml; a bu mellt a lleisiau a tharanau a daear-gryn a chenllysg mawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help